2020 Rhif 1610 (Cy. 336)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2020

Cymeradywyd gan Senedd Cymru

Gwnaed

Yn dod i rym

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 19841.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

Enwi a dod i rym1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2020.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 11.59 p.m. ar 19 Rhagfyr 2020.

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 20202

1

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 20202 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 1(3), yn lle “21 Rhagfyr 2020” rhodder “20 Rhagfyr 2020”.

3

Yn rheoliad 57(1)(t)(i), ar y diwedd rhodder “, o fewn unrhyw ardal Haen 4 neu o fewn unrhyw ardal arall lle y gosodir cyfyngiadau llymach na’r rhai sy’n gymwys yn yr ardal Haen 3”.

4

Yng Ngholofn 3 y tabl yn Atodlen 5, yn lle’r testun ar ôl “Lefel Rhybudd yr Ardal” rhodder “4”.

5

Yn Atodlen 6—

a

ym mharagraff 1, yn lle “Yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 22 Rhagfyr 2020 ac sy’n dod i ben â 28 Rhagfyr 2020” rhodder “Ar 25 Rhagfyr 2020”;

b

hepgorer paragraff 2;

c

hepgorer paragraff 3;

d

ym mharagraff 4(2), yn y testun sy’n addasu paragraff 3 o Atodlen 4—

i

ym mharagraff 3(1), yn lle “yn ystod cyfnod y Nadolig” rhodder “ar 25 Rhagfyr 2020”;

ii

hepgorer paragraff 3A;

e

hepgorer paragraff 4(3);

f

hepgorer paragraff 4(4);

g

ym mharagraff 5—

i

yn is-baragraff (1)(a), yn lle “yn ystod cyfnod y Nadolig yn rhinwedd yr addasiadau a wneir ym mharagraff 3 neu 4” rhodder “ar 25 Rhagfyr 2020 yn rhinwedd yr addasiadau a wneir ym mharagraff 4”;

ii

yn lle is-baragraff (1)(b) rhodder—

b

pan oedd yr aelwyd, yn union 25 Rhagfyr 2020, yn rhan o aelwyd estynedig a ffurfiwyd o dan neu yn rhinwedd paragraff 3 o Atodlen 4 (“aelwyd estynedig cyn y Nadolig”) fel y mae’n gymwys heb yr addasiadau a wneir ym mharagraff 4.

iii

yn is-baragraff (3), yn lle “cyfnod y Nadolig” rhodder “y dydd ar 25 Rhagfyr 2020”;

iv

hepgorer is-baragraff (4).

Mark DrakefordY Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru. Mae’r Rheoliadau yn gosod gofynion a chyfyngiadau ar unigolion, busnesau ac eraill.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (y “prif Reoliadau”) er mwyn—

a

dod â’r prif Reoliadau (oni bai am Ran 6) i rym ar 20 Rhagfyr 2020;

b

cynnwys ardal Haen 4 arfaethedig Lloegr yn y diffiniad o “ardal o’r DU sydd o dan gyfyngiadau”, sy’n golygu na chaiff unrhyw berson sy’n byw mewn ardal Haen 4 ddod i Gymru heb esgus rhesymol;

c

darparu bod Lefel Rhybudd 4 yn gymwys i Gymru o 20 Rhagfyr 2020 ymlaen;

d

cyfyngu’r addasiadau a wneir yn Atodlen 6 i’r prif Reoliadau i’r cyfyngiadau sy’n gymwys dros gyfnod y Nadolig fel eu bod yn gymwys ar 25 Rhagfyr 2020 yn unig.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.