- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Cymeradywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed
am 9.12 p.m. ar 19 Rhagfyr 2020
Yn dod i rym
am 11.59 p.m. ar 19 Rhagfyr 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
21 Rhagfyr 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.
Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 11.59 p.m. ar 19 Rhagfyr 2020.
2.—(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1(3), yn lle “21 Rhagfyr 2020” rhodder “20 Rhagfyr 2020”.
(3) Yn rheoliad 57(1)(t)(i), ar y diwedd rhodder “, o fewn unrhyw ardal Haen 4 neu o fewn unrhyw ardal arall lle y gosodir cyfyngiadau llymach na’r rhai sy’n gymwys yn yr ardal Haen 3”.
(4) Yng Ngholofn 3 y tabl yn Atodlen 5, yn lle’r testun ar ôl “Lefel Rhybudd yr Ardal” rhodder “4”.
(5) Yn Atodlen 6—
(a)ym mharagraff 1, yn lle “Yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 22 Rhagfyr 2020 ac sy’n dod i ben â 28 Rhagfyr 2020” rhodder “Ar 25 Rhagfyr 2020”;
(b)hepgorer paragraff 2;
(c)hepgorer paragraff 3;
(d)ym mharagraff 4(2), yn y testun sy’n addasu paragraff 3 o Atodlen 4—
(i)ym mharagraff 3(1), yn lle “yn ystod cyfnod y Nadolig” rhodder “ar 25 Rhagfyr 2020”;
(ii)hepgorer paragraff 3A;
(e)hepgorer paragraff 4(3);
(f)hepgorer paragraff 4(4);
(g)ym mharagraff 5—
(i)yn is-baragraff (1)(a), yn lle “yn ystod cyfnod y Nadolig yn rhinwedd yr addasiadau a wneir ym mharagraff 3 neu 4” rhodder “ar 25 Rhagfyr 2020 yn rhinwedd yr addasiadau a wneir ym mharagraff 4”;
(ii)yn lle is-baragraff (1)(b) rhodder—
“(b)pan oedd yr aelwyd, yn union 25 Rhagfyr 2020, yn rhan o aelwyd estynedig a ffurfiwyd o dan neu yn rhinwedd paragraff 3 o Atodlen 4 (“aelwyd estynedig cyn y Nadolig”) fel y mae’n gymwys heb yr addasiadau a wneir ym mharagraff 4.”;
(iii)yn is-baragraff (3), yn lle “cyfnod y Nadolig” rhodder “y dydd ar 25 Rhagfyr 2020”;
(iv)hepgorer is-baragraff (4).
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
Am 9.12 p.m. ar 19 Rhagfyr 2020
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru. Mae’r Rheoliadau yn gosod gofynion a chyfyngiadau ar unigolion, busnesau ac eraill.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (y “prif Reoliadau”) er mwyn—
(a)dod â’r prif Reoliadau (oni bai am Ran 6) i rym ar 20 Rhagfyr 2020;
(b)cynnwys ardal Haen 4 arfaethedig Lloegr yn y diffiniad o “ardal o’r DU sydd o dan gyfyngiadau”, sy’n golygu na chaiff unrhyw berson sy’n byw mewn ardal Haen 4 ddod i Gymru heb esgus rhesymol;
(c)darparu bod Lefel Rhybudd 4 yn gymwys i Gymru o 20 Rhagfyr 2020 ymlaen;
(d)cyfyngu’r addasiadau a wneir yn Atodlen 6 i’r prif Reoliadau i’r cyfyngiadau sy’n gymwys dros gyfnod y Nadolig fel eu bod yn gymwys ar 25 Rhagfyr 2020 yn unig.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1984 p. 22. Mewnosodwyd adrannau 45C, 45F a 45P gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaethau o dan yr adrannau hyn wedi eu rhoi i “the appropriate Minister” (“y Gweinidog priodol”). O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984, y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: