ATODLEN 4Cyfyngiadau Lefel Rhybudd 4
RHAN 1Cyfyngiadau ar symud ac ymgynnull gydag eraill
I31
1
Ni chaiff unrhyw berson ymadael â’r man lle y mae’n byw neu aros i ffwrdd o’r man hwnnw heb esgus rhesymol.
2
At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—
a
os yw’r person yn ymadael â’r man lle y mae’n byw, neu’n aros i ffwrdd o’r man hwnnw, at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu
b
os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (4) yn gymwys.
3
Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson ymadael â’r man lle y mae’n byw neu aros i ffwrdd o’r man hwnnw yn cynnwys—
a
i
bwyd a chyflenwadau meddygol ar gyfer y rheini ar yr un aelwyd neu’r aelwyd estynedig (gan gynnwys anifeiliaid ar yr aelwyd neu’r aelwyd estynedig) neu ar gyfer personau hyglwyf;
ii
cyflenwadau ar gyfer cynnal, cynnal a chadw a gweithrediad hanfodol yr aelwyd neu’r aelwyd estynedig, neu aelwyd person hyglwyf;
b
cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;
c
gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;
d
cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;
e
darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;
f
mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;
g
symud cartref;
h
cael arian oddi wrth unrhyw fusnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraff 39(g) o Atodlen 7 neu adneuo arian gydag unrhyw fusnes neu wasanaeth o’r fath;
i
gweld eiddo mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu’r eiddo;
j
ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;
k
cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;
l
cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.
4
Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2)(b) yw bod y person yn—
a
darparu neu’n cael cynhorthwy brys;
b
osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;
c
mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—
i
fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall,
ii
os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall, neu
iii
fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall;
d
mynd i angladd—
i
fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,
ii
os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu
iii
fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;
e
mynd i addoldy;
g
athletwr elît ac yn hyfforddi neu’n cystadlu;
h
darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn—
i
digwyddiad chwaraeon elît, neu
ii
digwyddiad chwaraeon sy’n digwydd y tu allan i Gymru;
i
teithio er mwyn pleidleisio mewn etholiad;
j
teithio i fan neu o fan, neu’n bresennol mewn man, lle y mae aelod o’i aelwyd estynedig yn byw.
5
Yn is-baragraff (4)(f)—
a
rhaid i ymarfer corff ddechrau a gorffen yn y man lle y mae’r person yn byw neu lle y mae aelod o aelwyd estynedig y person yn byw, neu
b
pan fo angen i’r person, am resymau salwch neu nam corfforol neu feddyliol, neu anabledd (o fewn yr ystyr a roddir i “disability” yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010), wneud ymarfer corff mewn man arall, rhaid i ymarfer corff ddigwydd mewn ardal sy’n lleol i’r man lle y mae’r person yn byw.
6
Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.
Gofyniad i beidio ag ymgynnull gyda phobl eraillI12
1
Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, ymgynnull gydag unrhyw berson arall ac eithrio—
a
aelodau o’i aelwyd,
b
ei ofalwr, neu
c
person y mae’n darparu gofal iddo.
2
At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—
a
os yw’r person yn ymgynnull gyda phobl eraill at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu
b
os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (4) yn gymwys.
3
Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—
a
cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;
b
gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;
c
cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;
d
darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;
e
mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;
f
symud cartref;
g
gweld eiddo mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu’r eiddo;
h
ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;
i
cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;
j
cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny;
k
osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed.
4
Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2)(b) yw bod y person yn—
a
darparu neu’n cael cynhorthwy brys;
b
mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—
i
fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas,
ii
os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas, neu
iii
fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas;
c
mynd i angladd—
i
fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,
ii
os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu
iii
fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;
d
mynd i addoldy;
e
athletwr elît ac sy’n hyfforddi neu’n cystadlu ;
f
darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn digwyddiad chwaraeon elît;
g
cymryd rhan mewn cynulliad gydag aelodau o’i aelwyd estynedig mewn man lle y mae aelodau o’r aelwyd estynedig yn byw;
h
cymryd rhan mewn cynulliad o ddim mwy na 4 o bobl pan fo’r holl bersonau yn y cynulliad—
i
yn byw yn yr un fangre, a
ii
yn rhannu cyfleusterau toiled, ymolchi, bwyta neu goginio gyda’i gilydd.
5
Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.
Aelwydydd estynedigI23
1
Caiff aelwyd F6anghenion llesiant ac aelwyd arall gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig.
2
Er mwyn cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig, rhaid F3i holl aelodau’r aelwydydd gytuno.
3
Ni chaiff aelwyd ond cytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o 1 aelwyd estynedig F10ar unrhyw un adeg .
4
Pan fo aelwyd F7anghenion llesiant wedi cytuno i gael ei thrin fel aelwyd estynedig gyda hyd at—
a
3 aelwyd arall o dan baragraff 3 o Atodlen 1, neu
F8(“yr aelwyd estynedig flaenorol”), dim ond rhwng yr aelwyd F7anghenion llesiant ac 1 o’r aelwydydd eraill hynny y caniateir gwneud cytundeb o dan y paragraff hwn F12oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd F7anghenion llesiant gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag aelod o’r aelwydydd hynny gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig flaenorol .
5
Mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig os yw unrhyw aelod o’r aelwyd F9... yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig.
F155A
Mae is-baragraff (5B) yn gymwys—
a
pan fo person a fyddai’n aelod o aelwyd estynedig, neu sy’n aelod o aelwyd estynedig, yn blentyn, a
b
pan fo person (“P”) a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn aelod o aelwyd y plentyn.
5B
Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys—
a
mae’r cytundeb sy’n ofynnol gan is-baragraff (3) i’w roi gan P (ac nid gan y plentyn), a
b
mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig yn unol ag is-baragraff (5) os yw P yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig (pa un a yw’r plentyn yn peidio â chytuno hefyd ai peidio).
6
Os yw aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig, ni chaiff yr aelwyd gytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig gydag unrhyw aelwyd arall F5oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag unrhyw aelod o aelwyd arall gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig â’r aelwyd honno .
7
Yn yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at aelwyd estynedig yn gyfeiriadau at aelwyd estynedig a ffurfir o dan neu yn rhinwedd y paragraff hwn.
F118
Yn y paragraff hwn, ystyr “aelwyd anghenion llesiant” yw—
a
aelwyd un oedolyn;
b
aelwyd ag 1 neu ragor o blant a dim oedolion.