xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 3Cyfyngiadau Lefel Rhybudd 3

RHAN 4Cyfyngiadau ar fusnesau a gwasanaethau penodol

PENNOD 1Busnesau neu wasanaethau y mae’n ofynnol cau eu mangreoedd

Cau busnesau a mangreoedd

7.—(1O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth a restrir ym mharagraffau 11 i 26

(a)rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes neu’r gwasanaeth, a

(b)ni chaiff gynnal y busnes neu’r gwasanaeth yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r rheoliad hwn.

(2Nid yw is-baragraff (1) yn atal—

(a)gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach;

(b)defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;

(c)defnyddio mangre i ddarlledu heb gynulleidfa yn bresennol yn y fangre (pa un ai dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu) neu i ymarfer ar gyfer darllediad o’r fath;

(d)defnyddio mangre ar gyfer darparu nwyddau neu wasanaethau (gan gynnwys eu gwerthu, eu llogi, eu casglu neu eu danfon) mewn ymateb i archeb neu ymholiad a wneir—

(i)drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,

(ii)dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu

(iii)drwy’r post;

(e)defnyddio mangre ar gyfer darparu gwybodaeth—

(i)drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,

(ii)dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu

(iii)drwy’r post.

(3Pan—

(a)bo’n ofynnol, yn rhinwedd y paragraff hwn, i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a

(b)bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),

cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.

PENNOD 2Cyfyngiadau ar fusnesau bwyd a diod a mangreoedd trwyddedig

Cyfyngiadau ar fusnesau bwyd a diod

8.—(1O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes bwyd a diod—

(a)ni chaiff agor ei fangre i gwsmeriaid cyn 6.00 a.m. bob dydd;

(b)rhaid iddo gau’r fangre i gwsmeriaid am neu cyn 6.00 p.m. bob dydd.

(2Ni chaiff y person sy’n gyfrifol am gynnal busnes bwyd a diod neu unrhyw fusnes neu wasanaeth arall y mae ei fangre wedi ei awdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol—

(a)gwerthu na chyflenwi alcohol i’w yfed yn ei fangre;

(b)caniatáu i alcohol gael ei yfed yn y fangre.

(3At ddibenion y paragraff hwn, mae ardal sy’n gyfagos i fangre’r busnes lle y mae seddi yn cael eu rhoi ar gael i gwsmeriaid y busnes (pa un ai gan y busnes ai peidio) i’w thrin fel rhan o fangre’r busnes hwnnw.

(4Pan—

(a)bo person sy’n gyfrifol am gynnal busnes bwyd a diod (“busnes A”) yn ddarostyngedig i ofyniad neu gyfyngiad o dan y paragraff hwn, a

(b)bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),

cydymffurfir â’r gofyniad neu’r cyfyngiad os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn cydymffurfio â’r gofyniad neu’r cyfyngiad.

Cyfyngiadau ar fusnesau bwyd a diod: eithriadau

9.—(1Nid yw paragraff 8(1) yn gymwys i—

(a)mangre mewn—

(i)porthladd môr;

(ii)maes awyr;

(iii)sefydliad addysgol;

(iv)ysbyty neu gartref gofal;

(b)ffreuturau yn y gweithle, pan na fo dewis ymarferol arall i bobl yn y gweithle hwnnw gael bwyd neu ddiod rhwng 6.00 p.m. a 6.00 a.m.;

(c)mangre a ddefnyddir ar gyfer darparu bwyd neu ddiod i bobl ddigartref.

(2Nid yw paragraff 8(1) yn atal mangre rhag cael ei defnyddio i werthu neu gyflenwi bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre.

(3Os—

(a)yw dathliad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu briodas arall yn cael ei gynnal neu ei chynnal mewn mangre y mae paragraff 8 yn gymwys iddi, a

(b)archebwyd y dathliad fwy nag wythnos cyn y dechreuodd y paragraff hwn fod yn gymwys ddiweddaraf i’r ardal y mae’r fangre wedi ei lleoli ynddi,

caiff y fangre, er gwaethaf paragraff 8(1)(b), aros ar agor tan 10.00 p.m. at ddibenion cynnal y dathliad.

(4Mae is-baragraffau (5) a (6) yn gymwys pan fo mangre busnes bwyd a diod (“y fangre o dan gyfyngiadau”) yn ffurfio rhan o fangre llety gwyliau neu lety teithio.

(5Nid yw paragraff 8(1)

(a)yn ei gwneud yn ofynnol i’r fangre o dan gyfyngiadau fod ar gau i breswylwyr y llety gwyliau neu’r llety teithio;

(b)yn atal gwerthu bwyd neu ddiod i breswylwyr—

(i)fel rhan o wasanaeth ystafell, neu

(ii)rhwng 6.00 a.m. a 10.00 p.m. mewn unrhyw ran o fangre’r llety gwyliau neu’r llety teithio.

(6Nid yw paragraff 8(1) na (2)

(a)yn atal preswylwyr rhag bwyta bwyd neu yfed diod (gan gynnwys alcohol) ar unrhyw adeg yn eu hystafell breifat;

(b)yn atal gwerthu alcohol i breswylwyr fel rhan o wasanaeth ystafell (ond gweler paragraff 10).

Cyfyngiadau ar fangreoedd trwyddedig

10.—(1Ni chaiff person sy’n gyfrifol am fangre sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol werthu na chyflenwi alcohol rhwng 10.00 p.m. a 6.00 a.m.

(2Nid yw is-baragraff (1) yn caniatáu i alcohol gael ei werthu na’i gyflenwi yn groes i awdurdodiad sydd wedi ei ganiatáu neu ei roi mewn cysylltiad â’r fangre.

PENNOD 3Rhestr o fangreoedd sydd ar gau

Busnesau neu wasanaethau y mae rhaid cau eu mangreoedd

11.  Clybiau nos, disgos, neuaddau dawnsio neu leoliadau eraill sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol lle y darperir cerddoriaeth fyw neu wedi ei recordio i aelodau’r cyhoedd neu aelodau’r lleoliad ddawnsio.

12.  Lleoliadau adloniant rhywiol (o fewn yr ystyr a roddir i “sexual entertainment venue” gan baragraff 2A o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982).

13.  Sinemâu, ac eithrio sinemâu o sedd cerbyd.

14.  Neuaddau cyngerdd a theatrau, ac eithrio theatrau o sedd cerbyd.

15.  Casinos.

16.  Neuaddau bingo.

17.  Arcedau diddanu.

18.  Alïau bowlio.

19.  Canolfannau neu fannau chwarae o dan do.

20.  Ffeiriau pleser, parciau diddanu a pharciau thema.

21.  Amgueddfeydd ac orielau.

22.  Rinciau sglefrio.

23.  Parciau a chanolfannau trampolîn.

24.  Parciau a chanolfannau sglefrio o dan do.

25.  Sbaon.

26.  Atyniadau i ymwelwyr.