xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 2LL+CCyfyngiadau Lefel Rhybudd 2

RHAN 1LL+CCyfyngiadau ar ymgynnull

Cyfyngiad ar gynulliadau mewn anheddau preifatLL+C

1.[F1(1) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad mewn annedd breifat oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig.]

[F2(1A) Ond caiff person gymryd rhan mewn cynulliad o’r fath yn yr awyr agored os nad oes mwy na 6 pherson yn y cynulliad.]

(2Wrth bennu, at ddibenion [F3is-baragraff (1A)] , nifer y personau sy’n cymryd rhan mewn cynulliad, nid yw’r canlynol i’w ystyried—

(a)unrhyw blant o dan 11 oed [F4, cyhyd â bod y personau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad (gan gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed) yn dod o ddim mwy na 6 aelwyd] , neu

(b)gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.

(3At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—

(a)os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu

(b)os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (5) yn gymwys.

(4Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—

(a)cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

F5(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(c)cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol;

(d)darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

(e)mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

(f)symud cartref;

(g)ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;

(h)cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.

(5Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (3)(b) yw bod y person yn—

(a)darparu neu’n cael cynhorthwy brys;

(b)osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;

[F6(ba)gweithio neu’n darparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol, neu’n cael gwasanaethau oddi wrth berson sy’n gweithio neu’n darparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;]

(c)cymryd rhan mewn cynulliad o ddim mwy na 4 o bobl pan fo’r holl bersonau yn y cynulliad—

(i)yn byw yn yr un fangre, a

(ii)yn rhannu cyfleusterau toiled, ymolchi, bwyta neu goginio gyda’i gilydd.

(6Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Cyfyngiad ar gynulliadau mewn mannau cyhoeddusLL+C

2.—(1Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad—

(a)sy’n digwydd yn unman ac eithrio—

(i)mewn annedd breifat, neu

(ii)mewn llety gwyliau neu lety teithio, a

(b)sy’n cynnwys mwy na 4 o bobl, heb gynnwys—

(i)unrhyw blant o dan 11 oed, na

(ii)gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.

(2Ond caiff person gymryd rhan mewn cynulliad o’r fath—

(a)sy’n digwydd o dan do F7..., os yw’r holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd, neu

(i)os nad oes mwy na 6 pherson yn y cynulliad neu,

(ii)os yw’r holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd, neu

[F8(aa)sy’n digwydd yn yr awyr agored mewn mangre reoleiddiedig—

(i)os nad oes mwy na 6 pherson yn y cynulliad neu,

(ii)os yw’r holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd, neu]

[F9(b)sy’n digwydd yn yr awyr agored ac eithrio mewn mangre reoleiddiedig—

(i)os nad oes mwy na 6 pherson yn y cynulliad, neu

(ii)os yw’r holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig.]

(3Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad sy’n digwydd mewn llety gwyliau neu lety teithio oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd [F10neu’r un aelwyd estynedig].

[F11(3A) Ond caiff person gymryd rhan mewn cynulliad o’r fath yn yr awyr agored os nad oes mwy na 6 pherson yn y cynulliad.

(3B) Wrth bennu, at ddibenion is-baragraffau (2)(aa)(i), (2)(b)(ii) a (3A), nifer y personau sy’n cymryd rhan mewn cynulliad, nid yw’r canlynol i’w hystyried—

(a)unrhyw blant o dan 11 oed, cyhyd â bod y personau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad (gan gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed) yn dod o ddim mwy na 6 aelwyd, neu

(b)gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.]

(4At ddibenion is-baragraffau (1) a (3), mae gan berson esgus rhesymol—

(a)os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu

(b)os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (6) yn gymwys.

(5Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—

(a)cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

(b)gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

(c)cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;

(d)darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

(e)mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

(f)symud cartref;

(g)ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;

(h)cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;

(i)cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.

[F12(j)ymweld â pherson sy’n preswylio mewn cartref gofal, â chaniatâd darparwr y gwasanaeth.]

(6Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (4)(b) yw bod y person yn—

(a)darparu neu’n cael cynhorthwy brys;

(b)osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;

(c)mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—

(i)fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall,

(ii)os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall, neu

(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall;

(d)mynd i angladd—

(i)fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,

(ii)os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu

(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;

[F13(e)cymryd rhan mewn cynulliad o dan do o ddim mwy na 30 o bobl mewn mangre reoleiddiedig, neu gynulliad yn yr awyr agored o ddim mwy na 50 o bobl mewn mangre o’r fath, heb gyfrif (yn y naill achos na’r llall) bersonau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y fangre, i—

(i)dathlu gweinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall a ddigwyddodd ar neu ar ôl 26 Mawrth 2020;

(ii)dathlu bywyd person ymadawedig y cynhelir ei angladd ar neu ar ôl 26 Mawrth 2020;]

(f)mynd i addoldy;

(g)athletwr elît ac yn hyfforddi neu’n cystadlu;

(h)darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn digwyddiad chwaraeon elît;

(i)cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu o dan do neu hwyluso’r gweithgaredd hwnnw—

(i)lle nad yw mwy na [F1430] o bobl yn bresennol, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio fel rhan o’r gweithgaredd neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol fel rhan ohono, a

(ii)lle nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed;

(j)cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu yn yr awyr agored neu hwyluso’r gweithgaredd hwnnw—

[F15(i)lle nad yw mwy na 50 o bobl yn bresennol, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio fel rhan o’r gweithgaredd neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol fel rhan ohono, oni bai bod y gweithgaredd wedi ei drefnu at ddibenion protestio, neu bicedu a gynhelir yn unol â Deddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992, a]

(ii)lle nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed;

(k)cymryd rhan mewn [F16gweithgaredd wedi ei drefnu mewn mangre ac eithrio llety gwyliau neu lety teithio, neu’n hwyluso’r gweithgaredd hwnnw, er datblygiad personau a oedd o dan 18 oed ar 31 Awst 2020] (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol);

(l)mynd i ddigwyddiad neu hwyluso digwyddiad sydd wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff 5.

(7Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Aelwydydd estynedigLL+C

3.—(1Caiff 2 aelwyd gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig.

(2Yn ychwanegol at y 2 aelwyd a gaiff gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan is-baragraff (1), caiff 1 aelwyd [F17anghenion llesiant] hefyd gytuno i gael ei thrin fel rhan o’r aelwyd estynedig honno.

(3Er mwyn cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig, rhaid [F18i holl aelodau’r aelwydydd] gytuno.

(4Ni chaiff aelwyd ond cytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o 1 aelwyd estynedig [F19ar unrhyw un adeg] .

[F20(5) Pan fo aelwyd wedi cytuno i gael ei thrin fel aelwyd estynedig ag aelwydydd eraill o dan baragraff 3 o Atodlen 1 (“yr aelwyd estynedig flaenorol”), dim ond â’r aelwydydd eraill hynny y caiff wneud cytundeb o dan y paragraff hwn, oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag aelod o’r aelwydydd hynny gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig flaenorol.]

(6Pan fo aelwydydd wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan—

(a)paragraff 3 o Atodlen 3, neu

[F21(aa)paragraff 4 o Atodlen 3A,]

(b)paragraff 3 o Atodlen 4,

mae’r aelwydydd hynny i’w trin fel pe baent wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan y paragraff hwn.

(7Mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig os yw unrhyw aelod o’r aelwyd F22... yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig.

[F23(7A) Mae is-baragraff (7B) yn gymwys—

(a)pan fo person a fyddai’n aelod o aelwyd estynedig, neu sy’n aelod o aelwyd estynedig, yn blentyn, a

(b)pan fo person (“P”) a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn aelod o aelwyd y plentyn.

(7B) Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)mae’r cytundeb sy’n ofynnol gan is-baragraff (3) i’w roi gan P (ac nid gan y plentyn), a

(b)mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig yn unol ag is-baragraff (7) os yw P yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig (pa un a yw’r plentyn yn peidio â chytuno hefyd ai peidio).]

(8Os yw aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig, ni chaiff yr aelwyd gytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig gydag unrhyw aelwyd arall [F24oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag unrhyw aelod o aelwyd arall gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig â’r aelwyd honno] .

(9Yn yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at aelwyd estynedig yn gyfeiriadau at aelwyd estynedig a ffurfir o dan neu yn rhinwedd y paragraff hwn.

[F25(10) Yn y paragraff hwn, ystyr “aelwyd anghenion llesiant” yw—

(a)aelwyd un oedolyn;

(b)aelwyd ag 1 neu ragor o blant a dim oedolion.]

Diwygiadau Testunol

F17Geiriau yn Atod. 2 para. 3(2) wedi eu hamnewid (13.3.2021 yn union cyn dechrau'r diwrnod) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021 (O.S. 2021/307), rhlau. 1(2), 2(5)(a)(i)

F18Geiriau yn Atod. 2 para. 3(3) wedi eu hamnewid (13.3.2021 yn union cyn dechrau'r diwrnod) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021 (O.S. 2021/307), rhlau. 1(2), 2(5)(a)(ii)

F22Gair yn Atod. 2 para. 3(7) wedi ei hepgor (13.3.2021 yn union cyn dechrau'r diwrnod) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021 (O.S. 2021/307), rhlau. 1(2), 2(5)(a)(iii)

F23Atod. 2 para. 3(7A)(7B) wedi ei fewnosod (13.3.2021 yn union cyn dechrau'r diwrnod) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021 (O.S. 2021/307), rhlau. 1(2), 2(5)(a)(iv)

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)