ATODLEN 2Cyfyngiadau Lefel Rhybudd 2
RHAN 1Cyfyngiadau ar ymgynnull
Cyfyngiad ar gynulliadau mewn mannau cyhoeddusI12
1
Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad—
a
sy’n digwydd yn unman ac eithrio—
i
mewn annedd breifat, neu
ii
mewn llety gwyliau neu lety teithio, a
b
sy’n cynnwys mwy na 4 o bobl, heb gynnwys—
i
unrhyw blant o dan 11 oed, na
ii
gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.
2
Ond caiff person gymryd rhan mewn cynulliad o’r fath—
a
sy’n digwydd o dan do F4..., os yw’r holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd, neu
i
os nad oes mwy na 6 pherson yn y cynulliad neu,
ii
os yw’r holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd, neu
F7aa
sy’n digwydd yn yr awyr agored mewn mangre reoleiddiedig—
i
os nad oes mwy na 6 pherson yn y cynulliad neu,
ii
os yw’r holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd, neu
F2b
sy’n digwydd yn yr awyr agored ac eithrio mewn mangre reoleiddiedig—
i
os nad oes mwy na 6 pherson yn y cynulliad, neu
ii
os yw’r holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig.
3
Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad sy’n digwydd mewn llety gwyliau neu lety teithio oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd F1neu’r un aelwyd estynedig.
F83A
Ond caiff person gymryd rhan mewn cynulliad o’r fath yn yr awyr agored os nad oes mwy na 6 pherson yn y cynulliad.
3B
Wrth bennu, at ddibenion is-baragraffau (2)(aa)(i), (2)(b)(ii) a (3A), nifer y personau sy’n cymryd rhan mewn cynulliad, nid yw’r canlynol i’w hystyried—
a
unrhyw blant o dan 11 oed, cyhyd â bod y personau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad (gan gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed) yn dod o ddim mwy na 6 aelwyd, neu
b
gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.
4
a
os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu
b
os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (6) yn gymwys.
5
Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—
a
cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;
b
gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;
c
cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;
d
darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;
e
mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;
f
symud cartref;
g
ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;
h
cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;
i
cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.
F6j
ymweld â pherson sy’n preswylio mewn cartref gofal, â chaniatâd darparwr y gwasanaeth.
6
Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (4)(b) yw bod y person yn—
a
darparu neu’n cael cynhorthwy brys;
b
osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;
c
mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—
i
fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall,
ii
os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall, neu
iii
fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall;
d
mynd i angladd—
i
fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,
ii
os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu
iii
fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;
F10e
cymryd rhan mewn cynulliad o dan do o ddim mwy na 30 o bobl mewn mangre reoleiddiedig, neu gynulliad yn yr awyr agored o ddim mwy na 50 o bobl mewn mangre o’r fath, heb gyfrif (yn y naill achos na’r llall) bersonau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y fangre, i—
i
dathlu gweinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall a ddigwyddodd ar neu ar ôl 26 Mawrth 2020;
ii
dathlu bywyd person ymadawedig y cynhelir ei angladd ar neu ar ôl 26 Mawrth 2020;
f
mynd i addoldy;
g
athletwr elît ac yn hyfforddi neu’n cystadlu;
h
darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn digwyddiad chwaraeon elît;
i
cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu o dan do neu hwyluso’r gweithgaredd hwnnw—
i
lle nad yw mwy na F930 o bobl yn bresennol, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio fel rhan o’r gweithgaredd neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol fel rhan ohono, a
ii
lle nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed;
j
cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu yn yr awyr agored neu hwyluso’r gweithgaredd hwnnw—
F5i
lle nad yw mwy na 50 o bobl yn bresennol, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio fel rhan o’r gweithgaredd neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol fel rhan ohono, oni bai bod y gweithgaredd wedi ei drefnu at ddibenion protestio, neu bicedu a gynhelir yn unol â Deddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992, a
ii
lle nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed;
k
cymryd rhan mewn F3gweithgaredd wedi ei drefnu mewn mangre ac eithrio llety gwyliau neu lety teithio, neu’n hwyluso’r gweithgaredd hwnnw, er datblygiad personau a oedd o dan 18 oed ar 31 Awst 2020 (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol);
l
mynd i ddigwyddiad neu hwyluso digwyddiad sydd wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff 5.
7
Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.