RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cychwyn a dehongli1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020.

2

Ac eithrio fel y’i darperir ym mharagraff (3), daw’r Rheoliadau hyn i rym ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

3

Daw rheoliad 9 i rym yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

4

Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Prif Reoliadau” yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 19892.