NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989 (“y Prif Reoliadau”), sy’n darparu ar gyfer codi ac adennill ffioedd am wasanaethau perthnasol a ddarperir o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42) i bersonau penodol nad ydynt yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig.

Mae rheoliad 1 yn cynnwys darpariaethau cychwyn a dehongli. Ac eithrio rheoliad 9, daw’r Rheoliadau hyn i rym ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel y’i diffinnir yn Atodlen 1 i Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4). Daw rheoliad 9 i rym yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 1 o’r Prif Reoliadau i fewnosod diffiniadau o “the 2014 Act”, “competent institution”, “equivalent document”, “immigration rules”, “listed healthcare arrangements”, “Regulation (EC) No 883/2004”, “Regulation (EEC) No 1408/71” a “relevant services”. Mae hefyd yn diwygio’r diffiniad presennol o “member of the family”.

Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 4 o’r prif Reoliadau. Mae paragraffau (1) i (3) yn gwneud mân ddiwygiadau o ganlyniad i ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd. Mae paragraff (4) yn darparu esemptiad rhag ffioedd ar gyfer ymwelwyr tramor o dan amgylchiadau pan fo hyn wedi ei gwmpasu gan gytundeb cilyddol â gwlad a restrir yn Atodlen 2 i’r Prif Reoliadau neu â gwladwriaeth AEE neu’r Swistir o dan drefniant gofal iechyd a restrir. Mae paragraff (5) yn darparu, pan fo caniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig at ddibenion ei driniaeth wedi ei roi i berson a chanddo dystysgrif gofal iechyd S2, ac y mae’r ffioedd iechyd mewnfudo wedi eu hepgor mewn cysylltiad ag ef, y caniateir i ffioedd gael eu codi am ddarparu gwasanaethau perthnasol nad ydynt wedi eu hawdurdodi gan y dystysgrif gofal iechyd S2.

Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 4A o’r Prif Reoliadau i adlewyrchu’r ffaith na fydd y term “Member State” yn cwmpasu’r Deyrnas Unedig ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

Mae rheoliad 5 yn mewnosod rheoliadau newydd 4B, 4C a 4D yn y Prif Reoliadau.

Mae rheoliad 4B yn darparu bod personau sydd o fewn cwmpas Teitl III o Ran 2 o’r cytundeb ymadael, Teitl III o Ran 2 o gytundeb gwahanu Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop (EFTA) yr AEE neu’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd yn gallu parhau i gael gwasanaethau perthnasol yn ddi-dâl pan fo hawl i gael hyn o dan Reoliad (EU) Rhif 883/2004. Mae hefyd yn darparu bod gan aelodau o deulu person o’r fath hawlogaeth i gael gwasanaethau perthnasol yn ddi-dâl, yn ddarostyngedig i amodau penodol.

Mae rheoliad 4C yn darparu y bydd gwladolyn o’r Deyrnas Unedig sy’n cael pensiwn y Deyrnas Unedig ac sy’n preswylio fel arfer mewn gwladwriaeth AEE neu yn y Swistir ac a chanddo dystysgrif gofal iechyd S1 a ddyroddir gan y Deyrnas Unedig (neu ddogfen gyfatebol) yn cael gwasanaethau perthnasol yn ddi-dâl. Mae hefyd yn darparu y bydd gan aelodau o deulu person o’r fath hawlogaeth i gael gwasanaethau perthnasol yn ddi-dâl. Mae rheoliad 4D yn darparu na chodir ffi ar berson, sy’n gwneud cais hwyr o dan Atodiad EU i’r rheolau mewnfudo, am wasanaethau perthnasol sy’n cael eu darparu tra bo ei gais yn cael ei benderfynu. Os yw’r cais hwnnw yn aflwyddiannus, codir ffi ar y person am ddarparu’r gwasanaethau perthnasol hynny ac, os yw’r cais yn llwyddiannus ac os yw ffioedd wedi eu codi a’u hadennill, caiff y rhain eu had-dalu.

Mae rheoliad 6 yn diwygio rheoliad 5 o’r Prif Reoliadau drwy ychwanegu “a British citizen” at y categorïau o bersonau a fydd wedi eu hesemptio rhag ffioedd am driniaeth y mae’r angen amdani yn codi ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

Mae rheoliad 7 yn mewnosod rheoliad newydd 5A yn y Prif Reoliadau o ganlyniad i ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd. Mae’r rheoliad newydd yn darparu, pan fo ymwelydd tramor o wladwriaeth AEE neu’r Swistir naill ai wedi cael triniaeth cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu neu’n rhan o’r ffordd drwy driniaeth ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, y bydd y ffi a oedd yn gymwys cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu yn gymwys mewn cysylltiad â’r driniaeth honno.

Mae rheoliad 8 yn ychwanegu Bosnia-Herzegovina, Gogledd Macedonia, Kosovo, Liechtenstein, Montenegro, Serbia ac Ynysoedd Ffaröe at y rhestr o wledydd yn Atodlen 2 i’r Prif Reoliadau sy’n ymwneud â chytundebau cilyddol. Mae rheoliad 8 hefyd yn dileu Barbados, Ffederasiwn Rwsia, Gwlad yr Iâ, Iwgoslafia ac Undeb y Gweriniaethau Sofiet Sosialaidd o’r rhestr o wledydd yn Atodlen 2.

Mae rheoliad 9 yn dirymu Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 a baratowyd at Ymadawiad “heb gytundeb” â’r UE ac nad ydynt yn adlewyrchu darpariaethau’r cytundeb ymadael â’r UE, darpariaethau cytundeb gwahanu EFTA yr AEE na darpariaethau’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.