Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) (Diwygio) 2020
Enwi a chychwyn1.
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) (Diwygio) 2020 a deuant i rym ar 30 Ionawr 2021.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) 20202.
(1)
Mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) 20203 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn rheoliad 1(2)(a), yn lle “31 Ionawr 2021” rhodder “30 Medi 2021”.
(3)
Yn rheoliad 2(2), yn lle “31 Ionawr 2021” rhodder “30 Medi 2021”.
(4)
Yn rheoliad 4(a), yn lle “1 Chwefror 2021” rhodder “1 Hydref 2021”.
(5)
Yn rheoliad 4(b), yn lle “31 Ionawr 2021” rhodder “30 Medi 2021”.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) 2020 (“Rheoliadau 2020”).
Diwygiodd Rheoliadau 2020 Reoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005, o dan amgylchiadau penodol sy’n ymwneud â mynychder neu drosglwyddiad y coronafeirws, er mwyn caniatáu—
panelau apêl a chanddynt ddau aelod, a
i banelau apêl gynnal gwrandawiadau drwy fynediad o bell neu benderfynu apelau ar sail gwybodaeth ysgrifenedig.
Mae rheoliad 2(2) o Reoliadau 2020 yn darparu bod y diwygiadau hynny yn peidio â chael effaith ar 31 Ionawr 2021.
Prif effaith rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yw diwygio’r dyddiad 31 Ionawr 2021 yn Rheoliadau 2020 i 30 Medi 2021. Golyga hyn fod y diwygiadau a wneir gan Reoliadau 2020 yn parhau i gael effaith tan 30 Medi 2021.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.