Rheoliadau a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 13A(8) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
2020 Rhif 16 (Cy. 2)
Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2020
Gwnaed
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 13A(4) a (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19921 a pharagraffau 2 i 7 o Atodlen 1B iddi.
Yn unol ag adran 13A(8) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi, cychwyn a dehongli1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2020.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.
3
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chynllun gostyngiadau’r dreth gyngor a wneir ar gyfer blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020 neu ar ôl hynny.
4
Yn y Rheoliadau hyn ystyr “cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor” yw cynllun a wneir gan awdurdod bilio yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 20132, neu’r cynllun sy’n gymwys yn ddiofyn yn rhinwedd paragraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
Diwygiadau i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Cyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013
2
Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 10.
3
Yn rheoliad 2(1) (dehongli) yn y lle priodol mewnosoder—
ystyr “absenoldeb profedigaeth rhiant” (“parental bereavement leave”) yw absenoldeb o dan adran 80EA o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 19963;
4
Yn rheoliad 4 (ystyr “cwpl”), ym mharagraff (b), ar ôl “yn gwpl priod” mewnosoder “neu’n bartneriaid sifil”.
5
Yn rheoliad 10 (gwaith am dâl), ym mharagraff 7, ar ôl “absenoldeb rhiant a rennir” mewnosoder “, absenoldeb profedigaeth rhiant”.
6
Yn rheoliad 28 (personau sydd i’w trin fel rhai nad ydynt ym Mhrydain Fawr)—
a
ym mharagraff 4—
i
ar ddiwedd is-baragraff (c) hepgorer “neu”;
ii
yn is-baragraff (d)—
aa
yn lle “15A(1)” rhodder “16”;
bb
yn lle “(4A)” rhodder “(5)”; ac
cc
ar y diwedd hepgorer “.” a mewnosoder “; neu”;
iii
ar ôl is-baragraff (d) mewnosoder—
e
y ffaith y rhoddwyd caniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig, neu i aros ynddi, i berson o dan Ddeddf Mewnfudo 1971 yn rhinwedd—
i
Atodiad EU i’r rheolau mewnfudo a wnaed o dan adran 3(2) o’r Ddeddf honno;
ii
y ffaith ei fod yn berson sydd â hawl Zambrano i breswylio fel y’i diffinnir yn Anecs 1 o Atodiad EU i’r rheolau mewnfudo a wnaed o dan adran 3(2) o’r Ddeddf honno”; neu
iii
erthygl 3 (rhoi caniatâd i wladolion AEE a’r Swistir) o Orchymyn Mewnfudo (Gwladolion yr Ardal Economaidd Ewropeaidd) (Ymadael â’r UE) 20194 a wnaed o dan adran 3A o’r Ddeddf honno.
b
ym mharagraff 8, yn y diffiniad o “Rheoliadau AEE” yn lle “2006” rhodder “2016”.
7
Yn Atodlen 1 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad: pensiynwyr)—
a
ym mharagraff 3 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr)—
i
yn is-baragraff (1)(a) yn lle “£13.75” rhodder “£14.65”;
ii
yn is-baragraff (1)(b) yn lle “£4.55” rhodder “£4.85”;
iii
yn is-baragraff (2)(a) yn lle “£210.00” rhodder “£217.00”;
iv
yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£210.00”, “£365.00” a “£9.15” rhodder “£217.00”, “£377.00” a “£9.75” yn y drefn honno;
v
yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£365.00”, “£450.00” ac “£11.50” rhodder “£377.00, “£469.00” a “£12.25” yn y drefn honno;
b
ym mharagraff 10(1)(j) (ystyr “incwm”: pensiynwyr), ar ôl paragraff (xvia), mewnosoder—
xvib
tâl profedigaeth rhiant statudol o dan Ran 12ZD o DCBNC5;
c
ym mharagraff 12 (enillion enillwyr cyflogedig: pensiynwyr), ar ôl is-baragraff 1(ja) mewnosoder—
jb
tâl profedigaeth rhiant statudol o dan Ran 12ZD o’r Ddeddf honno;
d
ym mharagraff 13 (cyfrifo enillion net enillwyr cyflogedig: pensiynwyr), yn is-baragraff 2(d), ar ôl “tâl rhiant statudol a rennir” mewnosoder “, tâl profedigaeth rhiant statudol”;
e
ym mharagraff 19 (trin costau gofal plant: pensiynwyr)—
i
yn is-baragraff (15)—
aa
yn y geiriau o flaen paragraff (a), ar ôl “absenoldeb rhiant a rennir” mewnosoder “, absenoldeb profedigaeth rhiant”;
bb
ym mharagraff (a), ar ôl “absenoldeb rhiant a rennir” mewnosoder “, absenoldeb profedigaeth rhiant”;
cc
ym mharagraff (c), ar ôl “tâl rhiant statudol a rennir yn rhinwedd adran 171ZU neu 171ZV o’r Ddeddf honno” mewnosoder “, tâl profedigaeth rhiant statudol yn rhinwedd adran 171ZZ o’r Ddeddf honno6”;
ii
yn is-baragraff (16)—
aa
yn y geiriau o flaen paragraff (a), ar ôl “absenoldeb rhiant a rennir” mewnosoder “, absenoldeb profedigaeth rhiant”;
bb
ym mharagraffau (b) ac (c), ar ôl “tâl rhiant statudol a rennir” mewnosoder “, tâl profedigaeth rhiant statudol”.
8
Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—
a
yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfans personol)—
i
yn is-baragraff (1) yn lle “£167.25” a “£181.00” rhodder “£173.80” a “£187.80” yn y drefn honno;
ii
yn is-baragraff (2) yn lle “£255.25” a “£270.60” rhodder “£265.20” a “£280.85” yn y drefn honno;
iii
yn is-baragraff (3) yn lle “£255.25” ac “£88.00” rhodder “£265.20” ac “£91.40” yn y drefn honno;
iv
yn is-baragraff (4) yn lle “£270.60” ac “£89.60” rhodder “£280.85” a “£93.05” yn y drefn honno;
b
yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—
i
yn is-baragraff (1) yn lle “£65.85” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£66.95” ac yn lle “£131.70” rhodder “£133.90”;
ii
yn is-baragraff (2) yn lle “£26.04” rhodder “£26.60”;
iii
yn is-baragraff (3) yn lle “£64.19” rhodder “£65.52”;
iv
yn is-baragraff (4) yn lle “£36.85” rhodder “£37.50”.
9
Yn Atodlen 6 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad o dan gynllun awdurdod, swm unrhyw ostyngiad, a chyfrifo incwm a chyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
a
ym mharagraff 5 (didyniadau annibynyddion: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
i
yn is-baragraff (1)(a) yn lle “£13.75” rhodder “£14.65”;
ii
yn is-baragraff (1)(b) yn lle “£4.55” rhodder “£4.85”;
iii
yn is-baragraff (2)(a) yn lle “£210.00” rhodder “£217.00”;
iv
yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£210.00”, “£365.00” a “£9.15” rhodder “£217.00”, “£377.00” a “£9.75” yn y drefn honno;
v
yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£365.00”, “£450.00” ac “£11.50” rhodder “£377.00”, “£469.00” a “£12.25” yn y drefn honno;
b
ym mharagraff 14 (enillion enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
i
yn is-baragraff (1)(j), ar ôl “tâl rhiant statudol a rennir” mewnosoder “, tâl profedigaeth rhiant statudol”;
ii
yn is-baragraff (1)(k), ar ôl “absenoldeb rhiant a rennir” mewnosoder “, absenoldeb profedigaeth rhiant”;
c
ym mharagraff 15 (cyfrifo enillion net enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr), yn is-baragraff 3(d), ar ôl “tâl rhiant statudol a rennir” mewnosoder “, tâl profedigaeth rhiant statudol”;
d
ym mharagraff 21 (trin costau gofal plant)—
i
yn is-baragraff (15)—
aa
yn y geiriau o flaen paragraff (a), ar ôl “absenoldeb rhiant a rennir” mewnosoder “, absenoldeb profedigaeth rhiant”;
bb
ym mharagraff (a), ar ôl “absenoldeb rhiant a rennir” mewnosoder “, absenoldeb profedigaeth rhiant”;
cc
ym mharagraff (c), ar ôl “tâl rhiant statudol a rennir o dan adran 171ZU neu 171ZV o’r Ddeddf honno” mewnosoder “, tâl profedigaeth rhiant statudol yn rhinwedd adran 171ZZ o’r Ddeddf honno”;
ii
yn is-baragraff (16)—
aa
yn y geiriau o flaen paragraff (a), ar ôl “absenoldeb rhiant a rennir” mewnosoder “, absenoldeb profedigaeth rhiant”;
bb
ym mharagraffau (b) ac (c), ar ôl “tâl rhiant statudol a rennir” mewnosoder “, tâl profedigaeth rhiant statudol”.
10
Yn Atodlen 7 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
a
yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
i
yn is-baragraff (1) yn lle “£77.90” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£79.20 ac yn lle “£61.70” rhodder £62.75;
ii
yn is-baragraff (2) yn lle “£77.90” rhodder £79.20;
iii
yn is-baragraff (3) yn lle “£122.35” rhodder £124.45;
b
yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—
i
yn is-baragraff (1) yn lle “£34.35” ac “£48.95” rhodder “£34.95” a “£49.80” yn y drefn honno;
ii
yn is-baragraff (2) yn lle “£65.85” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£66.95” ac yn lle “£131.70” rhodder “£133.90”;
iii
yn is-baragraff (3) yn lle “£64.19” rhodder “£65.52”;
iv
yn is-baragraff (4) yn lle “£36.85” rhodder “£37.50”;
v
yn is-baragraff (5) yn lle “£26.04”, “£16.80” a “£24.10” rhodder “£26.60”, “£17.10” a “£24.50” yn y drefn honno;
c
yn Rhan 6 (symiau’r elfennau), ym mharagraff 24 (swm yr elfen gymorth), yn lle “£38.55” rhodder “£39.20”.
Diwygiadau i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013
11
Mae’r cynllun a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 20137 wedi ei ddiwygio yn unol â rheoliadau 12 i 24.
12
Ym mharagraff 2(1) (dehongli), yn y lle priodol mewnosoder—
ystyr “absenoldeb profedigaeth rhiant” (“parental bereavement leave”) yw absenoldeb o dan adran 80EA o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996;
13
Ym mharagraff 4(b) (ystyr “cwpl”), ar ôl “yn gwpl priod” mewnosoder “neu’n bartneriaid sifil”.
14
Ym mharagraff 10 (gwaith am dâl), yn is-baragraff 7, ar ôl “absenoldeb rhiant a rennir” mewnosoder “, absenoldeb profedigaeth rhiant”.
15
Ym mharagraff 19 (dosbarth o bersonau a eithrir o’r cynllun hwn: personau sydd i’w trin fel rhai nad ydynt ym Mhrydain Fawr)—
a
yn is-baragraff (4)—
i
ar ddiwedd paragraff (c) hepgorer “neu”;
ii
ym mharagraff (d)—
aa
yn lle “15A(1)” rhodder “16”;
bb
yn lle “(4A)” rhodder “(5)”;
cc
ar y diwedd hepgorer “.” a mewnosoder “; neu”;
b
ar ôl is-baragraff (4) mewnosoder—
e
y ffaith y rhoddwyd caniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig, neu i aros ynddi, i berson o dan Ddeddf Mewnfudo 1971 yn rhinwedd—
i
Atodiad EU i’r rheolau mewnfudo a wnaed o dan adran 3(2) o’r Ddeddf honno;
ii
y ffaith ei fod yn berson sydd â hawl Zambrano i breswylio fel y’i diffinnir yn Anecs 1 o Atodiad EU i’r rheolau mewnfudo a wnaed o dan adran 3(2) o’r Ddeddf honno; neu
iii
erthygl 3 (rhoi caniatâd i wladolion AEE a’r Swistir) o Orchymyn Mewnfudo (Gwladolion yr Ardal Economaidd Ewropeaidd) (Ymadael â’r UE) 20198 a wnaed o dan adran 3A o’r Ddeddf honno.
c
yn is-baragraff (8), yn y diffiniad o “Rheoliadau AEE” yn lle “2006” rhodder “2016”.
16
Ym mharagraff 28 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr)—
a
yn is-baragraff (1)(a) yn lle “£13.75” rhodder “£14.65”;
b
yn is-baragraff (1)(b) yn lle “£4.55” rhodder “£4.85”;
c
yn is-baragraff (2)(a) yn lle “£210.00” rhodder “£217.00”;
d
yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£210.00”, “£365.00” a “£9.15” rhodder “£217.00”, “£377.00” a “£9.75” yn y drefn honno;
e
yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£365.00”, “£450.00” ac “£11.50” rhodder “£377.00”, “£469.00” a “£12.25” yn y drefn honno.
17
Ym mharagraff 36(1)(j) (ystyr “incwm”: pensiynwyr), ar ôl paragraff (xvia), mewnosoder—
xvib
tâl profedigaeth rhiant statudol o dan Ran 12ZD o DCBNC;
18
Ym mharagraff 38(1) (enillion enillwyr cyflogedig: pensiynwyr), ar ôl paragraff (ja) mewnosoder—
jb
tâl profedigaeth rhiant statudol o dan Ran 12ZD o DCBNC;
19
Ym mharagraff 39(2)(d) (cyfrifo enillion net enillwyr cyflogedig: pensiynwyr), ar ôl “tâl rhiant statudol a rennir” mewnosoder “, tâl profedigaeth rhiant statudol”.
20
Ym mharagraff 48(1) (enillion enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
a
ym mharagraff (j) ar ôl “tâl rhiant statudol a rennir” mewnosoder “, tâl profedigaeth rhiant statudol”;
b
ym mharagraff (k) ar ôl “absenoldeb rhiant a rennir” mewnosoder “, absenoldeb profedigaeth rhiant”.
21
Ym mharagraff 49(3)(d) (cyfrifo enillion net enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr), ar ôl “tâl rhiant statudol a rennir” mewnosoder “, tâl profedigaeth rhiant statudol”.
22
Ym mharagraff 55 (trin costau gofal plant)—
a
yn is-baragraff (15)—
i
yn y geiriau o flaen paragraff (a), ar ôl “absenoldeb rhiant a rennir” mewnosoder “, absenoldeb profedigaeth rhiant”;
ii
ym mharagraff (a), ar ôl “absenoldeb rhiant a rennir” mewnosoder “, absenoldeb profedigaeth rhiant”;
iii
ym mharagraff (c), ar ôl “tâl rhiant statudol a rennir o dan adran 171ZU neu 171ZV o’r Ddeddf honno” mewnosoder “, tâl profedigaeth rhiant statudol yn rhinwedd adran 171ZZ o’r Ddeddf honno”;
b
yn is-baragraff (16)—
i
yn y geiriau o flaen paragraff (a), ar ôl “absenoldeb rhiant a rennir” mewnosoder “, absenoldeb profedigaeth rhiant”;
ii
ym mharagraff (b) ar ôl “tâl rhiant statudol a rennir” mewnosoder “tâl profedigaeth rhiant statudol”;
iii
ym mharagraff (c) ar ôl “tâl rhiant statudol a rennir” mewnosoder “tâl profedigaeth rhiant statudol”,
23
Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—
a
yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
i
yn is-baragraff (1) yn lle “£167.25” a “£181.00” rhodder “£173.80” a “£187.80” yn y drefn honno;
ii
yn is-baragraff (2) yn lle “£255.25” a “£270.60” rhodder “£265.20” a “£280.85” yn y drefn honno;
iii
yn is-baragraff (3) yn lle “£255.25” ac “£88.00” rhodder “£265.20” ac “£91.40” yn y drefn honno;
iv
yn is-baragraff (4) yn lle “£270.60” a “£89.60” rhodder “£280.85” a “£93.05” yn y drefn honno;
b
yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—
i
yn is-baragraff (1) yn lle “£65.85” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£66.95 ac yn lle “£131.70” rhodder “£133.90”;
ii
yn is-baragraff (2) yn lle “£26.04” rhodder “£26.60”;
iii
yn is-baragraff (3) yn lle “£64.19” rhodder “£65.52”;
iv
yn is-baragraff (4) yn lle “£36.85” rhodder “£37.50”.
24
Yn Atodlen 3 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
a
yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
i
yn is-baragraff (1) yn lle “£77.90” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£79.20” ac yn lle “£61.70” rhodder “£62.75”;
ii
yn is-baragraff (2) yn lle “£77.90” rhodder “£79.20”;
iii
yn is-baragraff (3) yn lle “£122.35” rhodder “£124.45”;
b
yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—
i
yn is-baragraff (1) yn lle “£34.35” ac “£48.95” rhodder “£34.95 a “£49.80” yn y drefn honno;
ii
yn is-baragraff (2) yn lle “£65.85” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£66.95” ac yn lle “£131.70” rhodder “£133.90”;
iii
yn is-baragraff (3) yn lle “£64.19” rhodder “£65.52;
iv
yn is-baragraff (4) yn lle “£36.85” rhodder “£37.50”;
v
yn is-baragraff (5) yn lle “£26.04”, “£16.80” a “£24.10” rhodder “£26.60”, “£17.10” a “£24.50” yn y drefn honno;
c
yn Rhan 6 (symiau’r elfennau), ym mharagraff 24 (swm yr elfen gymorth), yn lle “£38.55” rhodder “£39.20”.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)