RHAN 3Diwygio is-ddeddfwriaeth Cymru
Rheoliadau Arbelydru Bwyd (Cymru) 20098
1
Mae Rheoliadau Arbelydru Bwyd (Cymru) 200913 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 3(1)—
a
yn y diffiniad o “mewnforio”, yn lle “o Aelod-wladwriaeth arall neu o wlad arall y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig”;
b
yn y diffiniad o “rhif cyfeirnod swyddogol”, yn lle “rhif cyfeirnod a ddyrennir gan yr Aelod-wladwriaeth mewn cysylltiad â chael ei gymeradwyo fel cyfleuster arbelydru (sef y rhif a ddangosir ar ei gyfer yn y rhestr yn Atodlen 3)” rhodder “rhif a ddangosir ar ei gyfer yn y rhestr yn Atodlen 3”.
3
Yn rheoliad 5(1)—
a
Yn lle is-baragraff (b) rhodder—
b
ei fod wedi’i arbelydru yn un o’r cyfleusterau a restrir yn y Tabl yn Atodlen 3 neu Atodlen 4;
b
Yn is-baragraff (ch), hepgorer “arall”.
4
Yn lle’r pennawd i Atodlen 3, rhodder—
RHESTR O GYFLEUSTERAU YN AELOD-WLADWRIAETHAU YR UE AC YN Y DEYRNAS UNEDIG