Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2007
7.—(1) Mae Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2007(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), yn lle’r diffiniad o “trydedd wlad” rhodder—
“ystyr “trydedd wlad” (“third country”), ac eithrio yn yr ymadrodd “mewnforyn trydedd wlad” (“third country import”) yw unrhyw wlad neu diriogaeth ac eithrio’r Ynysoedd Prydeinig;”.
(3) Yn lle rheoliad 4 rhodder—
“Cyfwerthoedd y bunt â’r Ewro
4. Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at nifer penodedig o Ewros (“EUR”) i’w ddarllen fel y swm hwnnw wedi ei drosi i bunnoedd (“GBP”) gan ddefnyddio’r gyfradd gyfnewid o GBP1 = EUR1.1413.”
(4) Yn lle’r pennawd i’r Atodlen, rhodder—
“DIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH”.
O.S. 2007/3462 (Cy. 307), a ddiwygiwyd gan O.S. 2011/1043, 2018/806 (Cy. 162) a 2019/1481 (Cy. 265); mae offeryn diwygio arall ond nid yw’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Fe’i ddiwygiwyd yn rhagolygol gan O.S. 2019/1046 (Cy. 185) ond mae’r diwygiad hwnnw wedi ei hepgor gan reoliad 5(4) o’r Rheoliadau hyn.