RHAN 3Diwygio is-ddeddfwriaeth Cymru

Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 20077

1

Mae Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 200712 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2(1), yn lle’r diffiniad o “trydedd wlad” rhodder—

  • ystyr “trydedd wlad” (“third country”), ac eithrio yn yr ymadrodd “mewnforyn trydedd wlad” (“third country import”) yw unrhyw wlad neu diriogaeth ac eithrio’r Ynysoedd Prydeinig;

3

Yn lle rheoliad 4 rhodder—

Cyfwerthoedd y bunt â’r Ewro4

Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at nifer penodedig o Ewros (“EUR”) i’w ddarllen fel y swm hwnnw wedi ei drosi i bunnoedd (“GBP”) gan ddefnyddio’r gyfradd gyfnewid o GBP1 = EUR1.1413.

4

Yn lle’r pennawd i’r Atodlen, rhodder—

DIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH