RHAN 2Diwygio is-ddeddfwriaeth Ymadael â’r UE

Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 20194

1

Mae Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 20196 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Hepgorer rheoliad 2.

3

Hepgorer rheoliadau 4, 5, 6 a 7.

4

Yn rheoliad 8 (diwygio Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 2015)—

a

Ym mharagraff (3), yn lle is-baragraff (b) rhodder—

b

yn lle is-baragraff (d), rhodder—

d

ei fod yn ddŵr mwynol naturiol a fwriedir ar gyfer—

i

ei symud i Ogledd Iwerddon; neu

ii

ei allforio i drydedd wlad.

b

yn lle paragraff (4)(a)(iii), rhodder—

iii

yn lle is-baragraff (d) rhodder—

d

yn achos dŵr a echdynnwyd o’r ddaear mewn trydedd wlad—

i

pan fo’r Asiantaeth yn rhoi cydnabyddiaeth yn unol â Rhan 2 o Atodlen 1;

ii

pan fo ganddo gydnabyddiaeth gyfatebol yn Lloegr a roddir gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol â rheoliad 4(1)(d)(i) o Reoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Lloegr) 20077 a Rhan 2 o Atodlen 3 iddynt;

iii

pan fo ganddo gydnabyddiaeth gyfatebol yn yr Alban a roddir gan Asiantaeth Safonau Bwyd yr Alban yn unol â rheoliad 4(1)(d)(i) o Reoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Yr Alban) (Rhif 2) 20078, a Rhan 2 o Atodlen 3 iddynt;

iv

pan fo ganddo gydnabyddiaeth gyfatebol yng Ngogledd Iwerddon a roddir gan yr Asiantaeth yn unol â rheoliad 4(2)(d)(i) o Reoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Gogledd Iwerddon) 20159, a Rhan 2 o Atodlen 1 iddynt.

c

ym mharagraff 5, yn y rheoliad newydd 4A sydd i’w fewnosod—

i

ym mharagraff (6), yn lle “mae’r diwrnod ymadael” rhodder “mae diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”;

ii

ym mharagraff (12), yn lle “y diwrnod ymadael”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”.

d

yn lle paragraff (7), rhodder—

7

Yn rheoliad 27A—

a

ym mharagraff (b)—

i

hepgorer “neu o Wladwriaeth AEE arall”;

ii

yn lle “Erthyglau 1 i 3 o Reoliad 115/2010” rhodder “y ddeddfwriaeth berthnasol ynghylch dŵr wedi’i botelu sy’n gymwys yn y rhan honno o’r Deyrnas Unedig”;

b

ym mharagraff (c)—

i

yn lle “wlad nad yw’n Wladwriaeth AEE arall” rhodder “drydedd wlad”;

ii

yn lle’r geiriau o “a awdurdodwyd” i “Erthyglau 1 i 3” rhodder “sy’n cydymffurfio â gofynion Erthyglau 1 a 2”

e

ym mharagraff (8)(b), ar ôl paragraff (i) mewnosoder—

ia

ar ôl “yr Asiantaeth”, yn lle “neu” rhodder “ei bod yn cyfateb i ofynion y Rheoliadau hyn, neu gan”