RHAN 2Diwygio is-ddeddfwriaeth Ymadael â’r UE
Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Cymru) 20193
1
Mae Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Cymru) 20195 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 4(3) (diwygio Rheoliadau Deunyddiau Bwyd sydd wedi’u Rhewi’n Gyflym (Cymru) 2007), yn lle is-baragraff (c), rhodder—
c
ym mharagraff (4)—
i
yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle “unrhyw ddisgrifiad arall a restrir yn Erthygl 8.1(a) o Gyfarwyddeb 89/109” rhodder “yr hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall”;
ii
yn is-baragraff (b), yn lle “yr Undeb Ewropeaidd” rhodder “y Deyrnas Unedig”.
3
Hepgorer rheoliadau 5 a 6.
4
Yn rheoliad 7 (diwygio Rheoliadau Llestri Cegin Plastig (Amodau ar Fewnforion o Tsieina) (Cymru) 2011)—
a
yn lle paragraff (2) rhodder—
2
Yn rheoliad 3(1), yn lle “i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “i Brydain Fawr”
b
Yn lle paragraff (3) rhodder—
3
Yn rheoliad 8(3)(a)(i), yn lle “i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “i Brydain Fawr”