RHAN 4Darpariaeth Arbed
Arbed datganiadau a wnaed o dan reoliad 35 o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 200916
Er gwaethaf dirymu rheoliad 35 o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009 (gan reoliad 10(11) o’r Rheoliadau hyn), mae unrhyw ddatganiad a wneir o dan reoliad 35 sydd mewn grym yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu yn cael effaith ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu fel pe bai wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru mewn offeryn statudol o dan Erthygl 53 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd22.