RHAN 3Diwygio is-ddeddfwriaeth Cymru

Rheoliadau Caseinau a Chaseinadau (Cymru) 201615

1

Mae Rheoliadau Caseinau a Chaseinadau (Cymru) 201621 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 6—

a

ym mharagraff (1)—

i

yn is-baragraff (d), yn lle “yr Undeb Ewropeaidd, enw neu enw busnes a chyfeiriad y sawl a’i mewnforiodd i farchnad yr Undeb Ewropeaidd” rhodder “y Deyrnas Unedig, enw neu enw busnes a chyfeiriad y sawl a’i mewnforiodd i farchnad y Deyrnas Unedig”;

ii

yn is-baragraff (e), yn lle “wledydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “drydedd wlad”;

b

ar ôl paragraff (8) mewnosoder—

9

Yn y rheoliad hwn, ystyr “trydedd wlad” yw unrhyw wlad ac eithrio yr Ynysoedd Prydeinig.