RHAN 3Diwygio is-ddeddfwriaeth Cymru

Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 201313

1

Mae Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 201319 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 10(b), yn lle “i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “i Brydain Fawr”.

3

Yn rheoliad 14(1)(d), yn lle “nhiriogaeth yr UE” rhodder “y Deyrnas Unedig”.

4

Hepgorer rheoliad 15.

5

Yn Atodlen 1—

a

yn Nhabl 1, yn y cofnod ar gyfer Erthygl 26.1, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn” rhodder “Awdurdod”;

b

Yn Nhabl 2—

i

yn y cofnod ar gyfer Erthygl 21.1 (fel y’i darllenir gydag Erthygl 22), yn yr ail golofn, yn lle “mewn iaith a deellir yn hawdd gan y prynwyr” rhodder “yn Saesneg, neu yn Gymraeg a Saesneg”;

ii

yn y cofnod ar gyfer Erthygl 26.2, yn yr ail golofn, yn lle “y Comisiwn” rhodder “yr Awdurdod”.

6

Yn Atodlen 2, yn Nhabl 1—

a

yn y cofnod ar gyfer Erthygl 10, yn yr ail golofn, yn lle “restr yr Undeb” rhodder “y rhestr ddomestig”;

b

yn y cofnod ar gyfer Erthygl 19.2, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn” rhodder “Awdurdod”;

c

yn y cofnod ar gyfer Erthygl 19.3, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn” rhodder “Awdurdod”.

7

Yn Atodlen 3, yn Nhabl 1, yn y cofnod ar gyfer Erthygl 9.5, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn” rhodder “Awdurdod”.

8

Yn Atodlen 4, yn Nhabl 1—

a

yn y cofnod ar gyfer Erthygl 4, yn yr ail golofn, yn lle “yn rhestr yr Undeb” rhodder “yn y rhestr ddomestig”;

b

yn y cofnod ar gyfer Erthygl 14.1, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn” rhodder “Awdurdod”;

c

yn y cofnod ar gyfer Erthygl 14.2, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn” rhodder “Awdurdod”.