RHAN 3Diwygio is-ddeddfwriaeth Cymru

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 200910

1

Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 200915 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2(1)—

a

ar ôl y diffiniad o “y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol”, hepgorer yr “ac”;

b

yn y lle priodol mewnosoder—

  • ystyr “trydedd wlad” (“third country”) yw unrhyw wlad neu diriogaeth ac eithrio’r Ynysoedd Prydeinig.

3

Yn rheoliad 4—

a

ym mharagraff (1), yn lle “ac Aelod-wladwriaethau” rhodder “a Gweinidogion Cymru”;

b

ym mharagraff (4), yn lle “ddeddfwriaeth yr UE” rhodder “unrhyw ddeddfwriaeth arall sy’n gymwys”.

4

Yn rheoliad 5(1), yn lle “ac Aelod-wladwriaethau” rhodder “a Gweinidogion Cymru”.

5

Hepgorer rheoliadau 14, 15 a 16.

6

Yn rheoliad 17—

a

hepgorer paragraff (3);

b

ym mharagraff (5), hepgorer is-baragraffau (a) a (b).

7

Yn rheoliad 19(1)—

a

yn is-baragraff (a), hepgorer “14, 15 neu”;

b

yn is-baragraff (b)—

i

hepgorer “14, 15 neu”;

ii

yn lle “rheoliadau hynny” rhodder “rheoliad hwnnw”.

8

Yn rheoliad 20(2), hepgorer “neu reoliad 16”.

9

Yn rheoliad 22, hepgorer y diffiniad o “y tiriogaethau perthnasol” a’r “ac” o’i flaen.

10

Yn rheoliad 28(1), hepgorer is-baragraffau (b) ac (ch).

11

Hepgorer rheoliad 3516.

12

Yn rheoliad 41—

a

ym mharagraff 1(b), hepgorer “neu baragraff (4) neu (5) o reoliad 35”;

b

ar ôl paragraff 1(d) mewnosoder—

e

yn mynd yn groes i ddarpariaethau unrhyw offeryn a wneir o dan Erthygl 53 o Reoliad 178/2002 neu’n methu â chydymffurfio â hwy.

13

Yn Atodlen 6, yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 5(1)(b) o Reoliad 2019/1602, yn yr ail golofn, yn lle “IMSOC” rhodder “system rheoli gwybodaeth gyfrifiadurol briodol”.