RHAN 1Cyflwyniad
Enwi, cymhwyso a chychwyn1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaeth Arbed) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2
Daw’r Rhan hon a Rhan 2 i rym yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
3
Daw Rhannau 3 a 4 i rym ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.