RHAN 3Diwygio is-ddeddfwriaeth Cymru
Rheoliadau Bwyd a Addaswyd yn Enetig (Cymru) 20045
1
Mae Rheoliadau Bwyd a Addaswyd yn Enetig (Cymru) 200410 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn yr Atodlen, yn Rhan 2, yn y tabl—
a
Hepgorer y cofnod ar gyfer Erthygl 8.6;
b
yn y cofnod ar gyfer Erthygl 9.3, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn”, rhodder “Awdurdod Diogelwch Bwyd”.
Rheoliadau Bwyd Cyffredinol 20046
1
Mae Rheoliadau Bwyd Cyffredinol 200411 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 4 (gofynion o dan Reoliad (EC) Rhif 178/2002: tramgwyddau), yn lle paragraff (a) rhodder—
a
Article 12 (food and feed exported from Great Britain) in so far as it relates to food;
Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 20077
1
Mae Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 200712 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 2(1), yn lle’r diffiniad o “trydedd wlad” rhodder—
ystyr “trydedd wlad” (“third country”), ac eithrio yn yr ymadrodd “mewnforyn trydedd wlad” (“third country import”) yw unrhyw wlad neu diriogaeth ac eithrio’r Ynysoedd Prydeinig;
3
Yn lle rheoliad 4 rhodder—
Cyfwerthoedd y bunt â’r Ewro4
Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at nifer penodedig o Ewros (“EUR”) i’w ddarllen fel y swm hwnnw wedi ei drosi i bunnoedd (“GBP”) gan ddefnyddio’r gyfradd gyfnewid o GBP1 = EUR1.1413.
4
Yn lle’r pennawd i’r Atodlen, rhodder—
DIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH
Rheoliadau Arbelydru Bwyd (Cymru) 20098
1
Mae Rheoliadau Arbelydru Bwyd (Cymru) 200913 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 3(1)—
a
yn y diffiniad o “mewnforio”, yn lle “o Aelod-wladwriaeth arall neu o wlad arall y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig”;
b
yn y diffiniad o “rhif cyfeirnod swyddogol”, yn lle “rhif cyfeirnod a ddyrennir gan yr Aelod-wladwriaeth mewn cysylltiad â chael ei gymeradwyo fel cyfleuster arbelydru (sef y rhif a ddangosir ar ei gyfer yn y rhestr yn Atodlen 3)” rhodder “rhif a ddangosir ar ei gyfer yn y rhestr yn Atodlen 3”.
3
Yn rheoliad 5(1)—
a
Yn lle is-baragraff (b) rhodder—
b
ei fod wedi’i arbelydru yn un o’r cyfleusterau a restrir yn y Tabl yn Atodlen 3 neu Atodlen 4;
b
Yn is-baragraff (ch), hepgorer “arall”.
4
Yn lle’r pennawd i Atodlen 3, rhodder—
RHESTR O GYFLEUSTERAU YN AELOD-WLADWRIAETHAU YR UE AC YN Y DEYRNAS UNEDIG
Rheoliadau Cig (Ffioedd Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 20099
Yn Rheoliadau Cig (Ffioedd Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 200914, yn lle’r pennawd i Atodlen 1, rhodder—
DIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH
Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 200910
1
Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 200915 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 2(1)—
a
ar ôl y diffiniad o “y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol”, hepgorer yr “ac”;
b
yn y lle priodol mewnosoder—
ystyr “trydedd wlad” (“third country”) yw unrhyw wlad neu diriogaeth ac eithrio’r Ynysoedd Prydeinig.
3
Yn rheoliad 4—
a
ym mharagraff (1), yn lle “ac Aelod-wladwriaethau” rhodder “a Gweinidogion Cymru”;
b
ym mharagraff (4), yn lle “ddeddfwriaeth yr UE” rhodder “unrhyw ddeddfwriaeth arall sy’n gymwys”.
4
Yn rheoliad 5(1), yn lle “ac Aelod-wladwriaethau” rhodder “a Gweinidogion Cymru”.
5
Hepgorer rheoliadau 14, 15 a 16.
6
Yn rheoliad 17—
a
hepgorer paragraff (3);
b
ym mharagraff (5), hepgorer is-baragraffau (a) a (b).
7
Yn rheoliad 19(1)—
a
yn is-baragraff (a), hepgorer “14, 15 neu”;
b
yn is-baragraff (b)—
i
hepgorer “14, 15 neu”;
ii
yn lle “rheoliadau hynny” rhodder “rheoliad hwnnw”.
8
Yn rheoliad 20(2), hepgorer “neu reoliad 16”.
9
Yn rheoliad 22, hepgorer y diffiniad o “y tiriogaethau perthnasol” a’r “ac” o’i flaen.
10
Yn rheoliad 28(1), hepgorer is-baragraffau (b) ac (ch).
11
Hepgorer rheoliad 3516.
12
Yn rheoliad 41—
a
ym mharagraff 1(b), hepgorer “neu baragraff (4) neu (5) o reoliad 35”;
b
ar ôl paragraff 1(d) mewnosoder—
e
yn mynd yn groes i ddarpariaethau unrhyw offeryn a wneir o dan Erthygl 53 o Reoliad 178/2002 neu’n methu â chydymffurfio â hwy.
13
Yn Atodlen 6, yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 5(1)(b) o Reoliad 2019/1602, yn yr ail golofn, yn lle “IMSOC” rhodder “system rheoli gwybodaeth gyfrifiadurol briodol”.
Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 201311
1
Mae Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 201317 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn Atodlen 2—
a
yn Rhan 1, ym mharagraff 6, yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth o’r Undeb Ewropeaidd”;
b
yn Rhan 2—
i
ym mharagraff 2, yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth o’r Undeb Ewropeaidd”;
ii
ym mharagraff 4, yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth o’r Undeb Ewropeaidd”.
Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 201312
1
Mae Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 201318 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 5—
a
ym mharagraff (1), yn lle “o’r darpariaethau UE” rhodder “o ddarpariaethau cyfraith yr UE a ddargedwir”;
b
ym mharagraff (2), yn lle “darpariaethau UE” rhodder “darpariaethau cyfraith yr UE a ddargedwir”.
3
Yn rheoliad 8(2) (cymhwyso adrannau amrywiol o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990), yn nhestun adran 9 a addaswyd, yn lle “the EU requirements”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “the retained EU law requirements”.
Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 201313
1
Mae Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 201319 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 10(b), yn lle “i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “i Brydain Fawr”.
3
Yn rheoliad 14(1)(d), yn lle “nhiriogaeth yr UE” rhodder “y Deyrnas Unedig”.
4
Hepgorer rheoliad 15.
5
Yn Atodlen 1—
a
yn Nhabl 1, yn y cofnod ar gyfer Erthygl 26.1, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn” rhodder “Awdurdod”;
b
Yn Nhabl 2—
i
yn y cofnod ar gyfer Erthygl 21.1 (fel y’i darllenir gydag Erthygl 22), yn yr ail golofn, yn lle “mewn iaith a deellir yn hawdd gan y prynwyr” rhodder “yn Saesneg, neu yn Gymraeg a Saesneg”;
ii
yn y cofnod ar gyfer Erthygl 26.2, yn yr ail golofn, yn lle “y Comisiwn” rhodder “yr Awdurdod”.
6
Yn Atodlen 2, yn Nhabl 1—
a
yn y cofnod ar gyfer Erthygl 10, yn yr ail golofn, yn lle “restr yr Undeb” rhodder “y rhestr ddomestig”;
b
yn y cofnod ar gyfer Erthygl 19.2, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn” rhodder “Awdurdod”;
c
yn y cofnod ar gyfer Erthygl 19.3, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn” rhodder “Awdurdod”.
7
Yn Atodlen 3, yn Nhabl 1, yn y cofnod ar gyfer Erthygl 9.5, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn” rhodder “Awdurdod”.
8
Yn Atodlen 4, yn Nhabl 1—
a
yn y cofnod ar gyfer Erthygl 4, yn yr ail golofn, yn lle “yn rhestr yr Undeb” rhodder “yn y rhestr ddomestig”;
b
yn y cofnod ar gyfer Erthygl 14.1, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn” rhodder “Awdurdod”;
c
yn y cofnod ar gyfer Erthygl 14.2, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn” rhodder “Awdurdod”.
Rheoliadau Mêl (Cymru) 201514
1
Mae Rheoliadau Mêl (Cymru) 201520 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 17—
a
Ym mharagraff (1)—
i
hepgorer “Aelod-wladwriaeth neu drydedd”;
ii
yn lle’r geiriau o “un o’r mynegiadau a ganlyn” hyd at y diwedd, rhodder “y mynegiad “blend of honeys from more than one country”, neu geiriad yn Saesneg ag ystyr cyfatebol.”;
b
ym mharagraff (6), yn lle’r geiriau o “mynegiadau a ganlyn” hyd at y diwedd, rhodder “mynegiad “cyfuniad o felau o fwy nag un wlad”, neu geiriad yn Gymraeg ag ystyr cyfatebol.”
Rheoliadau Caseinau a Chaseinadau (Cymru) 201615
1
Mae Rheoliadau Caseinau a Chaseinadau (Cymru) 201621 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 6—
a
ym mharagraff (1)—
i
yn is-baragraff (d), yn lle “yr Undeb Ewropeaidd, enw neu enw busnes a chyfeiriad y sawl a’i mewnforiodd i farchnad yr Undeb Ewropeaidd” rhodder “y Deyrnas Unedig, enw neu enw busnes a chyfeiriad y sawl a’i mewnforiodd i farchnad y Deyrnas Unedig”;
ii
yn is-baragraff (e), yn lle “wledydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “drydedd wlad”;
b
ar ôl paragraff (8) mewnosoder—
9
Yn y rheoliad hwn, ystyr “trydedd wlad” yw unrhyw wlad ac eithrio yr Ynysoedd Prydeinig.