RHAN 2Diwygio is-ddeddfwriaeth Ymadael â’r UE
Rheoliadau Cynhyrchion Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Rheoleiddiedig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 20192
1
Mae Rheoliadau Cynhyrchion Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Rheoleiddiedig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 20194 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Hepgorer rheoliad 2.
3
Yn rheoliad 3 (diwygio Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012)—
a
ar ôl paragraff (2) mewnosoder—
2A
Yn rheoliad 4(3) hepgorer “Cymunedol”.
2B
Yn rheoliad 6(1)—
a
hepgorer is-baragraff (a);
b
yn is-baragraff (b), yn lle “16(1)” rhodder “16”.
b
ym mharagraff (5), yn y rheoliad newydd 10A sydd i’w fewnosod—
i
ym mharagraff (1), yn lle “yn unol ag Erthygl 16 o Reoliad 1935/2004” rhodder “sy’n cydymffurfio â pharagraff (2)”;
ii
ym mharagraff (2), yn lle “yn y Deyrnas Unedig” rhodder “ym Mhrydain Fawr”;
iii
ym mharagraff (3), yn lle “i’r Deyrnas Unedig” rhodder “i Brydain Fawr”;
c
ar ôl paragraff (6) mewnosoder—
6A
Yn rheoliad 27(1)(a)(i), yn lle “10(4), 10(6)” rhodder “10A(1), 10A(3).
6B
Yn Atodlen 2, ym mharagraff 1, yn yr adran 10(1A) a amnewidiwyd, yn lle “10(4), 10(6)” rhodder “10A(1), 10A(3).
4
Hepgorer rheoliad 4.
5
Yn yr Atodlen, yn yr Atodlen 5 newydd (datganiad o gydymffurfedd) sydd i’w mewnosod, ym mharagraff 1(a), yn lle “i’r Deyrnas Unedig” rhodder “i Brydain Fawr”.
Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Cymru) 20193
1
Mae Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Cymru) 20195 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 4(3) (diwygio Rheoliadau Deunyddiau Bwyd sydd wedi’u Rhewi’n Gyflym (Cymru) 2007), yn lle is-baragraff (c), rhodder—
c
ym mharagraff (4)—
i
yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle “unrhyw ddisgrifiad arall a restrir yn Erthygl 8.1(a) o Gyfarwyddeb 89/109” rhodder “yr hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall”;
ii
yn is-baragraff (b), yn lle “yr Undeb Ewropeaidd” rhodder “y Deyrnas Unedig”.
3
Hepgorer rheoliadau 5 a 6.
4
Yn rheoliad 7 (diwygio Rheoliadau Llestri Cegin Plastig (Amodau ar Fewnforion o Tsieina) (Cymru) 2011)—
a
yn lle paragraff (2) rhodder—
2
Yn rheoliad 3(1), yn lle “i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “i Brydain Fawr”
b
Yn lle paragraff (3) rhodder—
3
Yn rheoliad 8(3)(a)(i), yn lle “i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “i Brydain Fawr”
Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 20194
1
Mae Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 20196 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Hepgorer rheoliad 2.
3
Hepgorer rheoliadau 4, 5, 6 a 7.
4
Yn rheoliad 8 (diwygio Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 2015)—
a
Ym mharagraff (3), yn lle is-baragraff (b) rhodder—
b
yn lle is-baragraff (d), rhodder—
d
ei fod yn ddŵr mwynol naturiol a fwriedir ar gyfer—
i
ei symud i Ogledd Iwerddon; neu
ii
ei allforio i drydedd wlad.
b
yn lle paragraff (4)(a)(iii), rhodder—
iii
yn lle is-baragraff (d) rhodder—
d
yn achos dŵr a echdynnwyd o’r ddaear mewn trydedd wlad—
i
pan fo’r Asiantaeth yn rhoi cydnabyddiaeth yn unol â Rhan 2 o Atodlen 1;
ii
pan fo ganddo gydnabyddiaeth gyfatebol yn Lloegr a roddir gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol â rheoliad 4(1)(d)(i) o Reoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Lloegr) 20077 a Rhan 2 o Atodlen 3 iddynt;
iii
pan fo ganddo gydnabyddiaeth gyfatebol yn yr Alban a roddir gan Asiantaeth Safonau Bwyd yr Alban yn unol â rheoliad 4(1)(d)(i) o Reoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Yr Alban) (Rhif 2) 20078, a Rhan 2 o Atodlen 3 iddynt;
iv
pan fo ganddo gydnabyddiaeth gyfatebol yng Ngogledd Iwerddon a roddir gan yr Asiantaeth yn unol â rheoliad 4(2)(d)(i) o Reoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Gogledd Iwerddon) 20159, a Rhan 2 o Atodlen 1 iddynt.
c
ym mharagraff 5, yn y rheoliad newydd 4A sydd i’w fewnosod—
i
ym mharagraff (6), yn lle “mae’r diwrnod ymadael” rhodder “mae diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”;
ii
ym mharagraff (12), yn lle “y diwrnod ymadael”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”.
d
yn lle paragraff (7), rhodder—
7
Yn rheoliad 27A—
a
ym mharagraff (b)—
i
hepgorer “neu o Wladwriaeth AEE arall”;
ii
yn lle “Erthyglau 1 i 3 o Reoliad 115/2010” rhodder “y ddeddfwriaeth berthnasol ynghylch dŵr wedi’i botelu sy’n gymwys yn y rhan honno o’r Deyrnas Unedig”;
b
ym mharagraff (c)—
i
yn lle “wlad nad yw’n Wladwriaeth AEE arall” rhodder “drydedd wlad”;
ii
yn lle’r geiriau o “a awdurdodwyd” i “Erthyglau 1 i 3” rhodder “sy’n cydymffurfio â gofynion Erthyglau 1 a 2”
e
ym mharagraff (8)(b), ar ôl paragraff (i) mewnosoder—
ia
ar ôl “yr Asiantaeth”, yn lle “neu” rhodder “ei bod yn cyfateb i ofynion y Rheoliadau hyn, neu gan”