NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraffau 1(1) ac 11M(1) o Atodlen 2, paragraff 7 o Atodlen 4, a pharagraff 21(b) o Atodlen 7, i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i ddeddfwriaeth ym maes diogelwch a hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid.

Mae Rhan 2 yn cynnwys diwygiadau i ddarpariaethau is-ddeddfwriaeth Cymru sy’n ymwneud ag Ymadael â’r UE. Mae’r diwygiadau yn cynnwys cywiro gwallau a nodwyd, a darpariaeth sy’n ofynnol i weithredu’r Protocol o ran Iwerddon/Gogledd Iwerddon yn y cytundeb ymadael â’r UE. Mae Rhan 2 hefyd yn hepgor nifer o ddarpariaethau a oedd wedi eu cynnwys er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd. O ran y darpariaethau sydd wedi eu hepgor, naill ai nid ydynt yn gymwys mwyach neu mae’r diwygiadau a wnaed gan y darpariaethau hynny wedi eu hamnewid gan ddiwygiadau eraill a wneir gan y Rheoliadau hyn.

Mae Rhan 3 yn cynnwys diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n gymwys o ran Cymru, er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol ac i weithredu’r protocol o ran Iwerddon/Gogledd Iwerddon. Mae nifer o’r diwygiadau yn cydgrynhoi ac yn diweddaru (gyda diwygiadau) darpariaethau a oedd wedi eu cynnwys mewn is-ddeddfwriaeth flaenorol sy’n ymwneud ag Ymadael â’r UE sydd wedi eu hepgor yn Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn.

Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth arbed.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.