Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 20194

1

Mae Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 20196 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn y testun Cymraeg, ailrifer rheoliadau 2 i 6 yn rheoliadau 1 i 5, ac mae’r paragraffau a ganlyn yn cyfeirio at y rheoliadau hynny fel y’u hailrifwyd.

3

Yn rheoliad 4—

a

yn lle paragraff (2) rhodder—

2

Yn rheoliad 3, yn lle paragraff (1) rhodder—

1

At ddibenion y Rheoliadau hyn—

a

“Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr” yw’r rhestr o amrywogaethau planhigion a baratowyd ac a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol â darpariaethau Rheoliadau Hadau (Rhestrau Cenedlaethol o Amrywogaethau) 20017;

b

ystyr “gwlad y caniatawyd cywerthedd iddi” yw—

i

gwlad y caniatawyd cywerthedd iddi o dan Benderfyniad y Cyngor 2003/17/EC ar gywerthedd archwiliadau maes a gynhelir mewn trydydd gwledydd ar gnydau sy’n cynhyrchu hadau ac ar gywerthedd hadau a gynhyrchir mewn trydydd gwledydd; neu

ii

gwlad y mae Gweinidogion Cymru wedi asesu bod yr hadau o’r wlad honno yn cael eu cynhyrchu o dan amodau sy’n cyfateb i ofynion y Rheoliadau hyn o ran yr hadau y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt;

c

ystyr “Tiriogaeth Ddibynnol y Goron” yw unrhyw un o Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw;

ch

ystyr “Rhestr Amrywogaethau Gogledd Iwerddon” yw’r rhestr o amrywogaethau planhigion a baratowyd ac a gyhoeddwyd gan yr Adran Amaethyddiaeth, Amgylchedd a Materion Gwledig yng Ngogledd Iwerddon yn unol â’r ddeddfwriaeth sy’n cyfateb o ran ei heffaith i Reoliadau Hadau (Rhestrau Cenedlaethol o Amrywogaethau) 2001.

b

yn lle paragraff (3) rhodder—

3

Yn rheoliad 4(2), yn lle “i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “i Brydain Fawr”.

c

yn lle paragraff (4) rhodder—

4

Yn rheoliad 7, yn lle’r geiriau o “Rhestr Genedlaethol” hyd at y diwedd rhodder “Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr, Rhestr Amrywogaethau Gogledd Iwerddon neu restr gyfatebol mewn gwlad y caniatawyd cywerthedd iddi”.

d

hepgorer paragraff (5);

e

yn lle paragraff (6) rhodder —

6

Yn rheoliad 10, ym mharagraff (a), yn lle “Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig neu’r Catalog Cyffredin” rhodder “Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr”.

f

ym mharagraff (9)—

i

yn lle is-baragraff (a) rhodder—

a

yn y pennawd, yn lle “o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “o wlad y caniatawyd cywerthedd iddi”;

ii

ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—

aa

yn lle paragraff (1) rhodder—

1

Rhaid i hadau sy’n cael eu mewnforio o wlad y caniatawyd cywerthedd iddi—

a

bod yn amrywogaeth a restrwyd yn Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr; a

b

bod wedi eu labelu—

i

o ran hadau llysiau safonol, â label cyflenwr yn unol â pharagraff 25(4) neu (5) o Atodlen 3;

ii

o ran yr holl hadau eraill, â label a gymeradwywyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar gyfer ardystio amrywogaethau i reoli hadau sy’n symud yn y fasnach ryngwladol.

iii

yn is-baragraff (b), yn lle “i’r Deyrnas Unedig” rhodder “o wlad y caniatawyd cywerthedd iddi”;

iv

hepgorer is-baragraff (c);

g

ym mharagraff (10)—

i

yn y rheoliad 32A newydd a’i bennawd sydd i’w mewnosod gan y paragraff hwnnw, ar ôl “Tiriogaeth Ddibynnol y Goron” mewnosoder “neu wlad y caniatawyd cywerthedd iddi”;

ii

yn y rheoliad 32B newydd a’i bennawd sydd i’w mewnosod gan y paragraff hwnnw—

aa

yn lle “ar y diwrnod ymadael” rhodder “ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”, yn lle “cyn y diwrnod ymadael” rhodder “cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu” ac yn lle “y mae’r diwrnod ymadael” rhodder “y mae diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”;

bb

yn lle “ddwy flynedd” rhodder “un flwyddyn”;

h

ym mharagraff (11)—

i

yn is-baragraff (a)(iii), yn yr is-baragraff (6)(b)(i)(bb) newydd sydd i’w fewnosod gan yr is-baragraff hwnnw, yn lle “United Kingdom National” rhodder “GB Variety”;

ii

yn lle is-baragraff (e) rhodder—

e

ym mharagraff 43(2), yn lle “Restr Genedlaethol y Deyrnas Unedig neu’r Catalog Cyffredin” rhodder “Restr Amrywogaethau Prydain Fawr”;

i

ym mharagraff (12)—

i

yn is-baragraff (c)(i), yn lle “UK” rhodder “GB”;

ii

yn lle is-baragraff (e) rhodder—

e

ym mharagraffau 12(2)(a) a 14(1)(a), yn lle “Restr Genedlaethol y Deyrnas Unedig neu’r Catalog Cyffredin” rhodder “Restr Amrywogaethau Prydain Fawr”;

iii

yn is-baragraffau (g) a (j), yn lle “UK” rhodder “GB”;

j

ym mharagraff (13)—

i

yn is-baragraff (d)—

aa

o flaen paragraff (i), mewnosoder—

ai

yn is-baragraffau (2) a (3), yn lle “Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig” rhodder “Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr”;

bb

ym mharagraff (i), yn yr is-baragraff (5A) newydd sydd i’w fewnosod gan y paragraff hwnnw, yn lle “the United Kingdom”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “Great Britain”;

ii

yn is-baragraff (e)(ii), yn lle “UK” rhodder “GB”;

iii

ar ôl is-baragraff (e) mewnosoder—

ea

ym mharagraff 9—

i

yn is-baragraffau (1), (5) a (6), yn lle “Genedlaethol y Deyrnas Unedig” rhodder “Amrywogaethau Prydain Fawr”;

ii

yn is-baragraff (8), yn y geiriau o flaen paragraff (a), yn lle “yn y Deyrnas Unedig” rhodder “ym Mhrydain Fawr”;

iv

yn lle is-baragraff (f) rhodder—

f

ym mharagraff 10—

i

yn is-baragraff (1), yn lle’r geiriau o “Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig” hyd at y diwedd rhodder “Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr ar yr amod bod cais wedi ei wneud i’w cofnodi yn Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr neu Restr Amrywogaethau Gogledd Iwerddon”;

ii

yn is-baragraff (4), yn lle “yn y Rhestr Genedlaethol berthnasol” rhodder “yn Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr, Rhestr Amrywogaethau Gogledd Iwerddon neu restr gyfatebol gwlad y caniatawyd cywerthedd iddi”;

iii

hepgorer is-baragraffau (7) ac (8);

v

yn lle is-baragraff (g) rhodder—

g

ym mharagraff 11(2), yn lle “Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig neu’r Catalog Cyffredin” rhodder “Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr”;

vi

yn is-baragraff (h)(ii)(bb), yn lle “y mae’r diwrnod ymadael” rhodder “y mae diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”;

vii

yn lle is-baragraff (l) rhodder—

l

hepgorer paragraff 16;

viii

yn lle is-baragraff (n) rhodder—

n

ym mharagraff 18, yn lle “Restr Genedlaethol y Deyrnas Unedig neu’r Catalog Cyffredin” rhodder “Restr Amrywogaethau Prydain Fawr”;

4

Yn rheoliad 5—

a

ym mharagraff (2)—

i

yn is-baragraffau (a), (b), (c), (f), ac (i)—

aa

yn yr is-baragraff (ii) newydd sydd i’w fewnosod gan bob un o’r is-baragraffau hynny, ar ôl “Tiriogaeth Ddibynnol y Goron” mewnosoder “neu wlad y caniatawyd cywerthedd iddi”;

bb

hepgorer yr is-baragraff (iii) newydd sydd i’w fewnosod gan bob un o’r is-baragraffau hynny;

ii

ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—

ca

yn y lle priodol mewnosoder—

  • “ystyr “gwlad y caniatawyd cywerthedd iddi” (“country granted equivalence”) yw gwlad sydd wedi ei hasesu o dan reoliad 5(3) ac y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod y deunyddiau planhigion o’r wlad yn cael eu cynhyrchu o dan amodau sy’n cyfateb i ofynion y Rheoliadau hyn o ran deunyddiau planhigion;”;

iii

yn is-baragraff (g), yn lle “, unrhyw Aelod-wladwriaeth neu unrhyw Diriogaeth Ddibynnol y Goron” rhodder “, unrhyw Diriogaeth Ddibynnol y Goron neu unrhyw wlad y caniatawyd cywerthedd iddi”;

b

yn lle paragraff (3) rhodder—

3

Yn rheoliad 4(3), yn lle “i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “i Brydain Fawr”.

c

yn lle paragraff (4) rhodder—

4

Yn rheoliad 5, ym mharagraff (3), yn lle “Undeb Ewropeaidd” rhodder “Deyrnas Unedig”.

d

hepgorer paragraffau (6), (7) ac (8);

e

ym mharagraff (9)—

i

yn is-baragraffau (a) ac (c)(i), yn lle “UK” rhodder “GB”;

ii

yn is-baragraff (c)(ii), yn lle “is-baragraffau (b)(i) ac (x)” rhodder “is-baragraff (b)(i)”;

f

ym mharagraffau (13)(a), (15)(a) ac (16), yn yr is-baragraff (ii) newydd sydd i’w fewnosod gan y paragraffau hynny, yn lle “y mae’r diwrnod ymadael” rhodder “y mae diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”.