Search Legislation

Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

4.—(1Mae Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn y testun Cymraeg, ailrifer rheoliadau 2 i 6 yn rheoliadau 1 i 5, ac mae’r paragraffau a ganlyn yn cyfeirio at y rheoliadau hynny fel y’u hailrifwyd.

(3Yn rheoliad 4—

(a)yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Yn rheoliad 3, yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) At ddibenion y Rheoliadau hyn—

(a)“Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr” yw’r rhestr o amrywogaethau planhigion a baratowyd ac a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol â darpariaethau Rheoliadau Hadau (Rhestrau Cenedlaethol o Amrywogaethau) 2001(2);

(b)ystyr “gwlad y caniatawyd cywerthedd iddi” yw—

(i)gwlad y caniatawyd cywerthedd iddi o dan Benderfyniad y Cyngor 2003/17/EC ar gywerthedd archwiliadau maes a gynhelir mewn trydydd gwledydd ar gnydau sy’n cynhyrchu hadau ac ar gywerthedd hadau a gynhyrchir mewn trydydd gwledydd; neu

(ii)gwlad y mae Gweinidogion Cymru wedi asesu bod yr hadau o’r wlad honno yn cael eu cynhyrchu o dan amodau sy’n cyfateb i ofynion y Rheoliadau hyn o ran yr hadau y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt;

(c)ystyr “Tiriogaeth Ddibynnol y Goron” yw unrhyw un o Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw;

(ch)ystyr “Rhestr Amrywogaethau Gogledd Iwerddon” yw’r rhestr o amrywogaethau planhigion a baratowyd ac a gyhoeddwyd gan yr Adran Amaethyddiaeth, Amgylchedd a Materion Gwledig yng Ngogledd Iwerddon yn unol â’r ddeddfwriaeth sy’n cyfateb o ran ei heffaith i Reoliadau Hadau (Rhestrau Cenedlaethol o Amrywogaethau) 2001.;

(b)yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) Yn rheoliad 4(2), yn lle “i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “i Brydain Fawr”.;

(c)yn lle paragraff (4) rhodder—

(4) Yn rheoliad 7, yn lle’r geiriau o “Rhestr Genedlaethol” hyd at y diwedd rhodder “Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr, Rhestr Amrywogaethau Gogledd Iwerddon neu restr gyfatebol mewn gwlad y caniatawyd cywerthedd iddi”.;

(d)hepgorer paragraff (5);

(e)yn lle paragraff (6) rhodder —

(6) Yn rheoliad 10, ym mharagraff (a), yn lle “Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig neu’r Catalog Cyffredin” rhodder “Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr”.;

(f)ym mharagraff (9)—

(i)yn lle is-baragraff (a) rhodder—

(a)yn y pennawd, yn lle “o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “o wlad y caniatawyd cywerthedd iddi”;;

(ii)ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—

(aa)yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) Rhaid i hadau sy’n cael eu mewnforio o wlad y caniatawyd cywerthedd iddi—

(a)bod yn amrywogaeth a restrwyd yn Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr; a

(b)bod wedi eu labelu—

(i)o ran hadau llysiau safonol, â label cyflenwr yn unol â pharagraff 25(4) neu (5) o Atodlen 3;

(ii)o ran yr holl hadau eraill, â label a gymeradwywyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar gyfer ardystio amrywogaethau i reoli hadau sy’n symud yn y fasnach ryngwladol.;;

(iii)yn is-baragraff (b), yn lle “i’r Deyrnas Unedig” rhodder “o wlad y caniatawyd cywerthedd iddi”;

(iv)hepgorer is-baragraff (c);

(g)ym mharagraff (10)—

(i)yn y rheoliad 32A newydd a’i bennawd sydd i’w mewnosod gan y paragraff hwnnw, ar ôl “Tiriogaeth Ddibynnol y Goron” mewnosoder “neu wlad y caniatawyd cywerthedd iddi”;

(ii)yn y rheoliad 32B newydd a’i bennawd sydd i’w mewnosod gan y paragraff hwnnw—

(aa)yn lle “ar y diwrnod ymadael” rhodder “ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”, yn lle “cyn y diwrnod ymadael” rhodder “cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu” ac yn lle “y mae’r diwrnod ymadael” rhodder “y mae diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”;

(bb)yn lle “ddwy flynedd” rhodder “un flwyddyn”;

(h)ym mharagraff (11)—

(i)yn is-baragraff (a)(iii), yn yr is-baragraff (6)(b)(i)(bb) newydd sydd i’w fewnosod gan yr is-baragraff hwnnw, yn lle “United Kingdom National” rhodder “GB Variety”;

(ii)yn lle is-baragraff (e) rhodder—

(e)ym mharagraff 43(2), yn lle “Restr Genedlaethol y Deyrnas Unedig neu’r Catalog Cyffredin” rhodder “Restr Amrywogaethau Prydain Fawr”;;

(i)ym mharagraff (12)—

(i)yn is-baragraff (c)(i), yn lle “UK” rhodder “GB”;

(ii)yn lle is-baragraff (e) rhodder—

(e)ym mharagraffau 12(2)(a) a 14(1)(a), yn lle “Restr Genedlaethol y Deyrnas Unedig neu’r Catalog Cyffredin” rhodder “Restr Amrywogaethau Prydain Fawr”;;

(iii)yn is-baragraffau (g) a (j), yn lle “UK” rhodder “GB”;

(j)ym mharagraff (13)—

(i)yn is-baragraff (d)—

(aa)o flaen paragraff (i), mewnosoder—

(ai)yn is-baragraffau (2) a (3), yn lle “Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig” rhodder “Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr”;;

(bb)ym mharagraff (i), yn yr is-baragraff (5A) newydd sydd i’w fewnosod gan y paragraff hwnnw, yn lle “the United Kingdom”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “Great Britain”;

(ii)yn is-baragraff (e)(ii), yn lle “UK” rhodder “GB”;

(iii)ar ôl is-baragraff (e) mewnosoder—

(ea)ym mharagraff 9—

(i)yn is-baragraffau (1), (5) a (6), yn lle “Genedlaethol y Deyrnas Unedig” rhodder “Amrywogaethau Prydain Fawr”;

(ii)yn is-baragraff (8), yn y geiriau o flaen paragraff (a), yn lle “yn y Deyrnas Unedig” rhodder “ym Mhrydain Fawr”;;

(iv)yn lle is-baragraff (f) rhodder—

(f)ym mharagraff 10—

(i)yn is-baragraff (1), yn lle’r geiriau o “Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig” hyd at y diwedd rhodder “Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr ar yr amod bod cais wedi ei wneud i’w cofnodi yn Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr neu Restr Amrywogaethau Gogledd Iwerddon”;

(ii)yn is-baragraff (4), yn lle “yn y Rhestr Genedlaethol berthnasol” rhodder “yn Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr, Rhestr Amrywogaethau Gogledd Iwerddon neu restr gyfatebol gwlad y caniatawyd cywerthedd iddi”;

(iii)hepgorer is-baragraffau (7) ac (8);;

(v)yn lle is-baragraff (g) rhodder—

(g)ym mharagraff 11(2), yn lle “Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig neu’r Catalog Cyffredin” rhodder “Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr”;;

(vi)yn is-baragraff (h)(ii)(bb), yn lle “y mae’r diwrnod ymadael” rhodder “y mae diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”;

(vii)yn lle is-baragraff (l) rhodder—

(l)hepgorer paragraff 16;;

(viii)yn lle is-baragraff (n) rhodder—

(n)ym mharagraff 18, yn lle “Restr Genedlaethol y Deyrnas Unedig neu’r Catalog Cyffredin” rhodder “Restr Amrywogaethau Prydain Fawr”;.

(4Yn rheoliad 5—

(a)ym mharagraff (2)—

(i)yn is-baragraffau (a), (b), (c), (f), ac (i)—

(aa)yn yr is-baragraff (ii) newydd sydd i’w fewnosod gan bob un o’r is-baragraffau hynny, ar ôl “Tiriogaeth Ddibynnol y Goron” mewnosoder “neu wlad y caniatawyd cywerthedd iddi”;

(bb)hepgorer yr is-baragraff (iii) newydd sydd i’w fewnosod gan bob un o’r is-baragraffau hynny;

(ii)ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—

(ca)yn y lle priodol mewnosoder—

“ystyr “gwlad y caniatawyd cywerthedd iddi” (“country granted equivalence”) yw gwlad sydd wedi ei hasesu o dan reoliad 5(3) ac y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod y deunyddiau planhigion o’r wlad yn cael eu cynhyrchu o dan amodau sy’n cyfateb i ofynion y Rheoliadau hyn o ran deunyddiau planhigion;”;;

(iii)yn is-baragraff (g), yn lle “, unrhyw Aelod-wladwriaeth neu unrhyw Diriogaeth Ddibynnol y Goron” rhodder “, unrhyw Diriogaeth Ddibynnol y Goron neu unrhyw wlad y caniatawyd cywerthedd iddi”;

(b)yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) Yn rheoliad 4(3), yn lle “i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “i Brydain Fawr”.;

(c)yn lle paragraff (4) rhodder—

(4) Yn rheoliad 5, ym mharagraff (3), yn lle “Undeb Ewropeaidd” rhodder “Deyrnas Unedig”.;

(d)hepgorer paragraffau (6), (7) ac (8);

(e)ym mharagraff (9)—

(i)yn is-baragraffau (a) ac (c)(i), yn lle “UK” rhodder “GB”;

(ii)yn is-baragraff (c)(ii), yn lle “is-baragraffau (b)(i) ac (x)” rhodder “is-baragraff (b)(i)”;

(f)ym mharagraffau (13)(a), (15)(a) ac (16), yn yr is-baragraff (ii) newydd sydd i’w fewnosod gan y paragraffau hynny, yn lle “y mae’r diwrnod ymadael” rhodder “y mae diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”.

(1)

O.S. 2019/368 (Cy. 90); a ddiwygiwyd yn rhagolygol gan O.S. 2019/1382 (Cy. 245), rheoliad 3: mae’r rheoliad hwnnw’n cael ei hepgor gan y Rheoliadau hyn.

(2)

O.S. 2001/3510, a ddiwygiwyd gan O.S.A. 2004/317, O.S. 2004/2949, O.S.A. 2005/328, 329, O.S. 2007/1871, 2009/1273, 2010/1195, 2011/464, 2012/2897, 2013/2042, 2014/487, O.S.A. 2015/395, O.S. 2016/106 (Cy. 52), 2018/942, 2020/579. Fe’i diwygir yn rhagolygol gan O.S. 2019/162.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources