NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio is-ddeddfwriaeth ddomestig ymadael â’r UE sy’n ymwneud â hadau, planhigion i’w plannu a deunyddiau atgenhedlu o ganlyniad i ymadael â’r UE. Mae rheoliad 2 hefyd yn mynd i’r afael â gwallau a nodwyd mewn is-ddeddfwriaeth ddomestig ymadael â’r UE.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.