2020 Rhif 1573 (Cy. 330)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Hadau, Cymru
Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 20181.
Yn unol â pharagraff 4(a) o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol o ran y Rheoliadau hyn sy’n dod i rym cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
Oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud y Rheoliadau hyn heb fod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad2.