RHAN 1Cyffredinol
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso1
1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2020.
2
Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 17 Rhagfyr 2020 ond nid yw erthyglau 3 i 65 ond yn cael effaith at ddiben etholiad i Senedd Cymru pan gynhelir y bleidlais ar neu ar ôl 5 Ebrill 2021.
3
Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Gorchymyn 2007” yw Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 20074.
Diwygio Gorchymyn 20072
Mae Gorchymyn 2007 wedi ei ddiwygio yn unol ag erthyglau 3 i 65.