NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 (O.S. 2007/236) (“Gorchymyn 2007”).

Gwnaed Gorchymyn 2007 a gorchmynion diwygio dilynol gan yr Ysgrifennydd Gwladol, ond trosglwyddwyd y pwerau galluogi i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Cymru 2017. O ganlyniad, dyma’r Gorchymyn cyntaf sydd wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â chynnal etholiadau Senedd Cymru.

Mae enw’r Gorchymyn hwn yn cynnwys y term Senedd Cymru yn sgil y newid a wneir i enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru gan Ran 2 o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (“Deddf 2020”).

Mae Rhan 2 o’r Gorchymyn hwn hefyd yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â Gorchymyn 2007 i adlewyrchu’r newidiadau sydd wedi eu gwneud gan Ran 2 o Ddeddf 2020. Er enghraifft, mae erthyglau 4 i 35 yn rhoi cyfeiriadau at yr enw newydd, o ganlyniad i Ran 2 o Ddeddf 2020, yn lle cyfeiriadau yn y ffurflenni hyn at Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Rhan 3 o’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth amrywiol i roi effaith i Ran 3 (etholiadau) o Ddeddf 2020 ac o ganlyniad i’r Rhan honno. Mae Rhan 3 o’r Ddeddf honno yn gwneud darpariaeth i ostwng yr oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau Senedd Cymru ac i estyn yr etholfraint i ddinasyddion tramor cymhwysol yn etholiadau Senedd Cymru.

Mae erthygl 36 yn diwygio erthygl 14 o Orchymyn 2007 i sicrhau nad yw troseddau a gyflawnir o dan y Gorchymyn mewn perthynas â darparu gwybodaeth anwir ond yn gymwys i’r rheini sydd wedi cyrraedd yr oedran pleidleisio.

Mae erthyglau 37 a 38 yn gwneud diwygiadau amrywiol i Atodlen 1 (pleidleisio absennol) ac Atodlen 5 (rheolau etholiadau Senedd Cymru) i Orchymyn 2007, yn y drefn honno. Mae’r holl ddiwygiadau hyn yn adlewyrchu’r ffaith bod Rhan 3 o Ddeddf 2020 yn darparu, mewn etholiadau i fod yn aelod o’r Senedd pan gynhelir y bleidlais ar 5 Ebrill 2021 neu wedi hynny, y caiff person sydd wedi cyrraedd 16 oed ac a fyddai fel arall â’r hawl i bleidleisio, bleidleisio yn yr etholiad hwnnw ac yn gwneud darpariaeth o ganlyniad i hyn.

Yn benodol mae erthygl 37(2) yn diwygio paragraff 1(9) o Atodlen 1 ac yn mewnosod paragraff newydd (e). Wrth wneud cais am bleidleisio absennol yn etholiadau Senedd Cymru, mae’n ofynnol i berson ddarparu’r cyfeiriad lle y mae neu y bydd wedi ei gofrestru. Mae paragraff 1(9) o Atodlen 1 yn galluogi pleidleisiwr o’r lluoedd arfog, cleifion mewn ysbytai meddwl nad ydynt yn droseddwyr a gedwir yn gaeth, personau sydd ar remánd yn y ddalfa a phersonau digartref i ddarparu cyfeiriadau penodol at ddiben gwneud cais. Mae Deddf 2020 yn gwneud darpariaeth i bersonau sy’n blant sy’n derbyn gofal, neu sydd wedi bod yn blant sy’n derbyn gofal, wneud datganiad o gysylltiad lleol ag (i) cyfeiriad yng Nghymru y mae’r person wedi preswylio ynddo yn flaenorol; neu (ii) cyfeiriad cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru y mae’r person hwnnw wedi preswylio ynddo yn flaenorol. Mae paragraff newydd 1(9)(e) yn caniatáu i ymgeisydd ddefnyddio unrhyw gyfeiriad o’r fath at ddiben gwneud cais i fod yn bleidleisiwr absennol.

Mae erthygl 37(7) yn mewnosod paragraff 14A yn Atodlen 1 sy’n sicrhau nad yw gwybodaeth sydd wedi ei chynnwys mewn cofnod neu restr o bleidleisiwr absennol sy’n ymwneud â pherson o dan 16 oed yn cael ei datgelu oni bai ei bod yn angenrheidiol at ddiben etholiad y bydd y person ifanc hwnnw â’r hawl i bleidleisio ynddo neu mewn cysylltiad â’r etholiad hwnnw.

Mae erthygl 38 yn gostwng oedran y rheini sydd â’r hawl i fynd gyda phleidleiswyr i’r orsaf bleidleisio yn rhinwedd rheol 41(1)(b) o Atodlen 5 i 16. Mae paragraff (b) yn gostwng oedran y rheini y caiff y Swyddog Llywyddu gyfyngu mynediad iddynt i orsaf bleidleisio i 16 oed. Mae paragraff (c) yn diwygio rheol 48(3)(b) o Atodlen 5 mewn modd tebyg i ostwng oedran y rheini sydd â’r hawl i fynd gyda pherson sy’n bleidleisiwr ag anableddau i 16 oed.

Mae Rhan 4 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn 2007 o ganlyniad i Ran 4 (anghymhwyso) o Ddeddf 2020.

Mae erthygl 43 yn diwygio erthygl 34 (datganiadau anwir mewn papurau enwebu etc.) o Orchymyn 2007 er mwyn darparu bod datganiad o ran cymhwystra ymgeisydd ar gyfer etholiad i Senedd Cymru yn cynnwys datganiad nad yw’r ymgeisydd wedi ei anghymhwyso o dan adran 16(A1) o Ddeddf 2006 (anghymhwyso rhag bod yn aelod o’r Senedd).

Mae erthygl 44 yn gwneud diwygiadau i ddarpariaethau amrywiol yn Atodlen 5 i Orchymyn 2007 (rheolau etholiadau Senedd Cymru). Diben y diwygiadau hyn yw rhoi effaith i’r newid sydd wedi ei wneud yn Rhan 4 o Ddeddf 2020 sy’n cyflwyno gwahaniaeth rhwng anghymhwyso rhag bod yn aelod o’r Senedd ac anghymhwyso rhag bod yn ymgeisydd ar gyfer y Senedd ac yn aelod ohoni.

Mae erthygl 44(5) yn hepgor rheol 19 o Atodlen 5 gan nad yw anghymhwyso o dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1981 yn gymwys i etholiadau Senedd Cymru mwyach o ganlyniad i Ran 4 o Ddeddf 2020.

Mae Rhan 5 o’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth i ymgeiswyr yn etholiadau Senedd Cymru ofyn i’w cyfeiriadau cartref beidio â chael eu cyhoeddi. Mae’r ddarpariaeth hon hefyd yn gymwys i’r rheini sy’n gweithredu fel eu hasiantwyr eu hunain. Pan fo personau o’r fath yn gofyn i’w cyfeiriad cartref beidio â chael ei gyhoeddi, ni fydd eu cyfeiriad cartref yn ymddangos ar ddatganiad o bersonau a enwebwyd a’r papur pleidleisio. Fodd bynnag, er hynny, mae’n ofynnol iddynt ddarparu, pan fônt yn breswylwyr yn y Deyrnas Unedig, yr etholaeth y maent yn byw ynddi, neu pan fônt yn preswylio y tu allan i’r Deyrnas Unedig, enw’r wlad y maent yn byw ynddi.

Mae erthyglau 47 i 52 yn cyflwyno’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn sy’n cynnwys ffurflen cyfeiriad cartref y gall ymgeiswyr ofyn ynddi i’w cyfeiriad cartref beidio â chael ei gyhoeddi ac yn gwneud diwygiadau canlyniadol i ffurflenni rhagnodedig eraill yn Atodlen 10 i Orchymyn 2007.

Mae erthygl 53 yn diwygio erthygl 23 o Orchymyn 2007. Bydd y diwygiadau a wneir i erthygl 23 yn golygu y bydd y swyddogion canlyniadau etholaethol a rhanbarthol yn adennill taliadau mewn cysylltiad â gwasanaethau a ddarperir mewn cysylltiad ag etholiad i Senedd Cymru ar ran gweinyddwyr etholiadol (swyddogion canlyniadau, dirprwy swyddogion canlyniadau a swyddogion cyngor) ac yn dosbarthu taliadau o’r fath fel y bo’n angenrheidiol.

Mae Rhan 7 o’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth sy’n galluogi’r Comisiwn Etholiadol i lunio cod ymarfer mewn perthynas â threuliau etholiad ar gyfer ymgeiswyr yn etholiadau Senedd Cymru. Mae erthygl 54 yn dirymu erthygl 63(8) o Orchymyn 2007. Fe’i disodlir gan y ddarpariaeth newydd yn erthygl 55 sydd i’w chynnwys yn Atodlen 7 (treuliau etholiad) i Orchymyn 2007.

Yn unol â hyn, caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo Cod drafft sydd wedi ei lunio gan y Comisiwn, gydag addasiadau neu hebddynt. Rhaid iddynt wedyn osod y Cod, ar ffurf ddrafft, gerbron Senedd Cymru. O fewn 40 niwrnod, caiff y Senedd wneud penderfyniad i beidio â chymeradwyo’r Cod drafft. Os yw hynny’n digwydd, ni chaiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas ag ef. Ond os na wneir penderfyniad, rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi’r Cod ar ffurf y drafft a osodwyd a rhaid i’r Comisiwn ei gyhoeddi.

Mae Rhan 8 o’r Gorchymyn hwn yn darparu i ymgeiswyr etholaethol a rhanbarthol ddefnyddio’r ôl-ddodiad “Cymru” a’r rhagddodiad “Welsh” ar y ffurflen enwebu ymgeisydd a’r papur pleidleisio pan na fo enw’r blaid gofrestredig yn cynnwys “Cymru” neu “Welsh”.

Mae Rhan 9 o’r Gorchymyn hwn yn gwneud nifer o ddiwygiadau eraill i Orchymyn 2007. Mae erthyglau 64 a 65 yn dirymu cyfeiriadau sydd wedi dyddio at Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (“Deddf 1998”). Roedd y cyfeiriadau hyn yn rhai trosiannol eu natur ac felly maent yn ddiangen bellach.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.