2020 Rhif 1558 (Cy. 329)

Y Gyfraith Gyfansoddiadol
Cynrychiolaeth Y Bobl, Cymru

Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2020

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 13(1), 13(2) a 157(2)(c) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 20061 fel y’i hestynnir gan adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 19932.

Yn unol ag adran 7(1) a (2)(f) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 20003, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Comisiwn Etholiadol cyn iddo gael ei wneud.

Yn unol ag adran 13(7) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.