RHAN 9Diwygiadau eraill
Diwygio Atodlen 5 (rheolau etholiadau Senedd Cymru)64
1
Mae Atodlen 5 (rheolau etholiadau Senedd Cymru) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheol 14 (penderfyniadau o ran dilysrwydd papurau enwebu)—
a
ym mharagraff (4)(c), yn lle “section 5(5) of the 1998 Act” rhodder “section 7(5) of the 2006 Act”;
b
hepgorer paragraff (11).
3
Yn rheol 23 (etholiad i’w gynnal drwy bleidlais)—
a
ym mharagraff (1), yn lle “section 4(4) of the 1998 Act” rhodder “section 6(4) of the 2006 Act”;
b
ym mharagraff (2), yn lle “sections 4(5) and (6) and 5 to 7 of the 1998 Act” rhodder “sections 6(5) and 7 to 9 of the 2006 Act”;
c
hepgorer paragraff (3).
4
Yn rheol 62 (datgan canlyniad mewn etholiad etholaethol), hepgorer paragraff (5).
5
Yn rheol 65 (dychwelyd neu fforffedu ernes)—
a
ym mharagraff (8)—
i
yn is-baragraff (i), yn lle “section 4(7) or section 8(7) of the 1998 Act” rhodder “sections 7(1) and 10(9) of the 2006 Act”;
ii
yn is-baragraff (ii), yn lle “section 5(5) or, as the case may be section 5(6) of the 1998 Act” rhodder “section 7(5) or, as the case may be section 7(6) of the 2006 Act”;
b
hepgorer paragraff (9).
6
Yn rheol 78 (swyddi gwag: ethol aelodau rhanbarthau etholiadol yn ffurfiol)—
a
ym mharagraff (11), hepgorer “, in respect of a vacancy occurring before the 2007 Assembly general election, section 9(7)(b) of the 1998 Act and in respect of vacancies occurring after that election,”;
b
hepgorer paragraff (12).
7
Ym mharagraff (7) o reol 79 (ethol aelodau o’r Senedd yn ffurfiol a chofnodi etholiadau etc)—
a
yn is-baragraff (a), yn lle’r geiriau o “, section 8(6) of the 1998 Act” hyd at y diwedd rhodder “section 10(7) of the 2006 Act; and”;
b
yn is-baragraff (b), yn lle’r geiriau o “, section 9(7)(a) of the 1998 Act” hyd at y diwedd rhodder “section 11(7)(a) of the 2006 Act.”