RHAN 2Ailenwi Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Newid enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru30

Yn ffurflen CT (ffurflen ardystio: rhanbarth etholiadol; sedd i aros yn wag tan etholiad cyffredinol nesaf y Cynulliad)—

a

yn lle “Gynulliad Cenedlaethol Cymru” ym mhennawd y ffurflen rhodder “Senedd Cymru”;

b

yn lle “un o ranbarthau etholiadol y Cynulliad” rhodder “un o ranbarthau etholiadol Senedd Cymru”;

c

yn lle “tan yr etholiad cyffredinol nesaf y Cynulliad” rhodder “tan etholiad cyffredinol nesaf Senedd Cymru”;

d

yn lle “Cynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “Senedd Cymru”.