Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020

Diwygio Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 908/2014

6.—(1Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 908/2014 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran asiantaethau talu a chyrff eraill, rheolaeth ariannol, clirio cyfrifon, rheolau ar wiriadau, gwarannau a thryloywder(1) wedi ei ddiwygio, i’r graddau y mae’n ymwneud â’r taliadau uniongyrchol, fel a ganlyn.

(2Yn Erthygl 4(1)—

(a)hepgorer pwynt (i);

(b)ym mhwynt (ii), hepgorer “on a single website”.

(3Hepgorer Erthygl 11.

(4Yn Erthygl 27(1), yn lle “EUR 5” rhodder “£5.00”.

(5Yn Erthygl 28—

(a)hepgorer “established in accordance with national law”;

(b)hepgorer y geiriau o “under direct” hyd at “Development”.

(6Yn lle Erthygl 41(1) rhodder—

1.  The relevant authorities may decide to reduce the minimum level of on-the-spot checks in accordance with Article 59(5) of Regulation (EU) No 1306/2013. For the reduced control rate to apply, the paying agency must confirm that—

(a)the internal control system is functioning correctly; and

(b)the error rate for the population concerned was below the materiality threshold of 2.0%.

(7Yn Erthygl 58, yn lle “third” rhodder “second”.

(8Hepgorer Erthygl 62.

(1)

EUR 2014/908, a ddiwygiwyd mewn perthynas â chynlluniau taliadau uniongyrchol gan O.S. 2020/90. Mae EUR 2014/908 hefyd wedi ei ddiwygio’n rhagolygol gydag effaith o ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu gan O.S. 2019/765. Er hynny, yn rhinwedd y diwygiadau yn Rheoliadau Amaethyddiaeth (Taliadau) (Diwygio, etc.) (Ymadael â’r UE) 2020, nid yw’r diwygiadau rhagolygol hyn yn cael effaith mewn perthynas â chynlluniau taliadau uniongyrchol.