2020 Rhif 154 (Cy. 28)
Addysg
Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Rhif 2) (Dirymu) 2020
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 2
Enwi a chychwyn
1.
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Rhif 2) (Dirymu) 2020.
2.
Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.
Dirymu
3.
Mae Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Rhif 2) 20203 wedi eu dirymu.
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Rhif 2) 2020.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, nid oes unrhyw asesiad effaith wedi ei lunio ar gyfer y Rheoliadau hyn gan nad oes unrhyw newid i bolisïau, nac unrhyw effaith ar fusnesau na’r sector gwirfoddol yn cael ei rhag-weld.