xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed
am 9.42 p.m. ar 11 Rhagfyr 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
am 11.45 p.m. ar 11 Rhagfyr 2020
Yn dod i rym
14 Rhagfyr 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.
Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Mangre Ysgol a Mangre Sefydliad Addysg Bellach) (Cymru) 2020.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am ar 14 Rhagfyr 2020.
(4) Yn y Rheoliadau hyn—
(a)ystyr “Deddf 1996” yw Deddf Addysg 1996(2);
(b)mae i “disgybl preswyl” yr ystyr a roddir i “boarder” gan adran 579 o Ddeddf 1996;
(c)ystyr “gweithiwr hanfodol” yw gweithiwr y mae’r awdurdod leol yn ei ystyried i fod yn weithiwr hanfodol ar ôl rhoi sylw i ganllawiau a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ar adnabod plant gweithwyr hanfodol;
(d)ystyr “sefydliad addysg bellach” yw—
(i)sefydliad o fewn y sector addysg bellach;
(ii)darparwr addysg neu hyfforddiant o fewn ystyr “education or training” yn adran 31(1)(a) neu (b) neu 32(1)(a) neu (b) o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000(3)—
(aa)nad yw’n sefydliad o fewn ystyr paragraff (i),
(bb)nad yw’n sefydliad yn y sector addysg uwch o fewn ystyr “higher education sector” yn adran 91(5) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(4), ac
(cc)sy’n cael cyllid i ddarparu’r addysg honno neu’r hyfforddiant hwnnw oddi wrth Weinidogion Cymru neu awdurdod lleol,
ond nid yw’n cynnwys cyflogwr sy’n ddarparwr dim ond am fod y cyflogwr yn darparu addysg neu hyfforddiant o’r fath i’w gyflogeion;
(e)mae i “ysgol annibynnol” yr ystyr a roddir i “independent school” gan adran 463 o Ddeddf 1996;
(f)mae i “sefydliad o fewn y sector addysg bellach” yr ystyr a roddir i “institutions within the further education sector” gan adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992;
(g)mae i “rhiant” yr ystyr a roddir i “parent” gan adran 576 o Ddeddf 1996;
(h)mae i “perchennog” yr ystyr a roddir i “proprietor” gan adran 579 o Ddeddf 1996 mewn perthynas ag ysgol ac, mewn perthynas â sefydliad nad yw’n ysgol, ystyr “perchennog” yw’r person neu’r corff o bersonau sy’n gyfrifol am reoli’r sefydliad;
(i)mae i “disgybl” yr ystyr a roddir i “pupil” gan adran 3 o Ddeddf 1996;
(j)mae i “uned cyfeirio disgyblion” yr ystyr a roddir i “pupil referral unit” gan adran 19 o Ddeddf 1996;
(k)mae i “anghenion addysgol arbennig” yr ystyr a roddir i “special educational needs” gan adran 312 o Ddeddf 1996;
(l)ystyr “ysgol arbennig” yw—
(i)ysgol arbennig o fewn yr ystyr a roddir i “special school” gan adran 337 o Ddeddf 1996;
(ii)ysgol annibynnol sy’n darparu’n gyfan gwbl neu’n bennaf addysg ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig;
(m)mae i “ysgol” yr ystyr a roddir i “school” gan adran 4 o Ddeddf 1996;
(n)ystyr “blwyddyn ysgol” yw’r cyfnod sy’n dechrau â’r tymor ysgol cyntaf i ddechrau ar ôl mis Gorffennaf ac sy’n dod i ben â dechrau’r tymor cyntaf o’r fath i ddechrau ar ôl y mis Gorffennaf canlynol;
(o)ystyr “blwyddyn 7” yw grŵp blwyddyn y bydd y rhan fwyaf o’r plant ynddo yn cyrraedd 12 oed yn ystod y flwyddyn ysgol;
(p)ystyr “grŵp blwyddyn” yw grŵp o blant mewn ysgol y bydd y rhan fwyaf ohonynt yn cyrraedd yr un oedran mewn blwyddyn ysgol benodol.
2.—(1) Daw’r Rheoliadau hyn i ben ar ddiwedd y dydd ar 22 Rhagfyr 2020.
(2) Nid yw’r rheoliad hwn yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir yn unol â’r Rheoliadau hyn cyn iddynt ddod i ben.
3.—(1) Ni chaiff perchennog ysgol yng Nghymru ganiatáu disgybl ym mlwyddyn 7 neu uwch i fynd i fangre’r ysgol yn ystod y cyfnod sy’n cychwyn ar ddechrau’r dydd ar 14 Rhagfyr 2020 ac yn gorffen ar ddiwedd y dydd ar 22 Rhagfyr 2020.
(2) Ond nid yw paragraff (1) yn gymwys i ddisgybl y mae ei riant yn weithiwr hanfodol.
(3) Ac nid yw paragraff (1) yn atal perchennog rhag caniatáu—
(a)disgybl rhag mynd i fangre ysgol—
(i)i wneud arholiad neu asesiad arall;
(ii)pan fo perchennog yr ysgol yn hysbysu rhiant y disgybl ei fod yn ystyried ei bod yn briodol i’r disgybl fynd yno oherwydd amgylchiadau eithriadol sy’n ymwneud â hyglwyfedd y disgybl;
(b)disgybl rhag mynd i fangre ysgol arbennig;
(c)disgybl rhag mynd i fangre uned cyfeirio disgyblion;
(d)disgybl rhag mynd i fangre uned mewn ysgol, lle—
(i)mae awdurdod lleol yn cydnabod bod yr uned wedi’i neilltuo ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig, a
(ii)bod y disgybl yn cael ei addysgu’n gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr uned;
(e)disgybl sy’n ddisgybl preswyl rhag preswylio mewn llety ym mangre’r ysgol.
4.—(1) Ni chaiff perchennog sefydliad addysg bellach yng Nghymru ganiatáu i fyfyriwr i fynd i fangre sefydliad addysg bellach yn ystod y cyfnod sy’n cychwyn ar ddechrau’r dydd ar 14 Rhagfyr 2020 ac yn gorffen ar ddiwedd y dydd ar 22 Rhagfyr 2020.
(2) Ond nid yw paragraff (1) yn atal perchennog rhag caniatáu myfyriwr i fynd i fangre—
(a)sefydliad addysg bellach i wneud arholiad neu asesiad arall;
(b)sefydliad yn y sector addysg bellach pan fo’r sefydliad yn hysbysu’r myfyriwr ei fod yn ystyried ei bod yn briodol i’r myfyriwr fynd yno oherwydd amgylchiadau eithriadol sy’n ymwneud â hyglwyfedd y myfyriwr.
5. Mae unrhyw fethiant gan berchennog i gydymffurfio gyda rheoliadau 3 neu 4 yn orfodadwy drwy gais am waharddeb gan Weinidogion Cymru i’r Uchel Lys neu’r Llys Sirol, heb rybudd.
Mark Drakeford
Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
Am 9.42 p.m. ar 11 Rhagfyr 2020
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru. Mae’r Rheoliadau yn gosod gofynion a chyfyngiadau ar unigolion.
Mae’r rheolaidau yn dod i rym am 14 Rhagfyr 2020 ac yn dod i ben ar ddiwedd y dydd ar 22 Rhagfyr 2020.
Mae rheoliadau 3 a 4 yn cyfyngu ar yr amgylchiadau y gall ddisgybl neu fyfyriwr fynychu mangre ysgol neu sefydliad addysg bellach.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1984 p. 22. Mewnosodwyd adrannau 45C, 45F a 45P gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14) Mae’r swyddogaethau o dan yr adrannau hyn wedi eu rhoi i “the appropriate Minister” (“y Gweinidog priodol”). O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984, y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.