xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Gwnaed
am 2.04 p.m. ar 11 Rhagfyr 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
am 6.00 p.m. ar 11 Rhagfyr 2020
Yn dod i rym
am 4.00 a.m. ar 12 Rhagfyr 2020
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 12 Rhagfyr 2020.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd” (“the Public Health Information Regulations”) yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020(2);
ystyr “y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” (“the International Travel Regulations”) yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020(3).
2. Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), hepgorer y cofnod a ganlyn—
“Yr Ynysoedd Dedwydd”.
3.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a)yn cyrraedd Cymru am 4:00 a.m. ar 12 Rhagfyr 2020 neu wedi hynny, a
(b)wedi bod yn yr Ynysoedd Dedwydd ddiwethaf—
(i)o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, a
(ii)cyn 4.00 a.m. ar 12 Rhagfyr 2020.
(2) Mae P, yn rhinwedd y ffaith iddo fod yn yr Ynysoedd Dedwydd, i’w drin at ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol fel pe bai wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, neu fel pe bai wedi cyrraedd ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath.
4. Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), yn y lle priodol mewnosoder—
“Gweriniaeth Botswana”
“Teyrnas Saudi Arabia”.
5.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan, yn union cyn 4.00 a.m. ar 12 Rhagfyr 2020—
(a)oedd person (“P”) yn ddarostyngedig i ofyniad i ynysu yn rhinwedd y ffaith iddo gyrraedd Cymru o wlad a restrir yn rheoliad 4, neu ar ôl bod mewn gwlad o’r fath, a
(b)diwrnod olaf ynysiad P yw 12 Rhagfyr 2020 neu ddiwrnod ar ôl y diwrnod hwnnw.
(2) Nid yw ychwanegu’r gwledydd a restrir yn rheoliad 4 at Ran 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn effeithio ar y gofyniad i ynysu fel y mae’n gymwys i P, nac ar y modd y pennir diwrnod olaf ynysiad P o dan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
(3) Mae paragraff (4) yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a)yn cyrraedd Cymru am 4.00 a.m. ar 12 Rhagfyr 2020 neu wedi hynny, a
(b)wedi bod mewn gwlad a restrir yn rheoliad 4 o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.
(4) At ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, mae’r cwestiwn o ran a yw P wedi cyrraedd Cymru o wlad nad yw’n esempt neu ar ôl bod mewn gwlad o’r fath i’w bennu, mewn perthynas â gwlad a restrir yn rheoliad 4, drwy gyfeirio at ba un a oedd y wlad yn wlad nad oedd yn esempt pan oedd P yno ddiwethaf (ac nid drwy gyfeirio at statws y wlad pan fo P yn cyrraedd Cymru).
(5) Yn y rheoliad hwn, mae i “gofyniad i ynysu” yr ystyr a roddir gan reoliad 10(2) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol; ac mae cyfeiriadau at ddiwrnod olaf ynysiad P i’w dehongli yn unol â rheoliad 12 o’r Rheoliadau hynny.
6.—(1) Mae rheoliad 16 (hysbysiadau cosb benodedig) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (6), yn lle “rhaid i’r swm a bennir o dan baragraff (5)(c) fod yn £1000” rhodder “mae’r swm a bennir o dan baragraff (5)(c) i fod fel a nodir ym mharagraff (6A)”.
(3) Ar ôl paragraff (6), mewnosoder—
“(6A) Mae’r swm a bennir yn gosb benodedig ym mharagraff (6) i fod—
(a)yn achos yr hysbysiad cosb benodedig cyntaf a geir, yn £500;
(b)yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig a geir, yn £1000;
(c)yn achos y trydydd hysbysiad cosb benodedig a geir, yn £2000;
(d)yn achos y pedwerydd hysbysiad cosb benodedig a geir, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig a geir wedi hynny, yn £4000.”
7. Yn rheoliad 6(2) ar ôl “yn” mewnosoder “rheoliad 3(1) neu (3) neu”.
8. Yn lle rheoliad 7(5) rhodder—
“(5) Mae swm y gosb benodedig a bennir o dan baragraff 4(c) i fod—
(a)yn achos yr hysbysiad cosb benodedig cyntaf a geir, yn £1000;
(b)yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig a geir, yn £2000;
(c)yn achos y trydydd hysbysiad cosb benodedig a geir, yn £4000;
(d)yn achos y pedwerydd hysbysiad cosb benodedig a geir, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig a geir wedi hynny, yn £10,000.”
9.—(1) Yn Rhan 1 o’r Atodlen, yn lle “14 o ddiwrnodau” rhodder “10 niwrnod”.
(2) Yn Rhan 2 o’r Atodlen, yn lle “14 o ddiwrnodau” rhodder “10 niwrnod”.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 2.04 p.m. ar 11 Rhagfyr 2020
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”) a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595 (Cy. 136)) (“y Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd”). Diwygiwyd y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn flaenorol gan:
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595) (Cy. 136);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714) (Cy. 160);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/726) (Cy. 163);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/804) (Cy. 177);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020 (O.S. 2020/817) (Cy. 179);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020 (O.S. 2020/840) (Cy. 185);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020 (O.S. 2020/868) (Cy. 190);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020 (O.S. 2020/886) (Cy. 196);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020 (O.S. 2020/917) (Cy. 205);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2020 (O.S. 2020/944) (Cy. 210);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2020 (O.S. 2020/962) (Cy. 216);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) 2020 (O.S. 2020/981) (Cy. 220);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) 2020 (O.S. 2020/1015) (Cy. 226);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020 (O.S. 2020/1042) (Cy. 231);
Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor, Materion y Gymanwlad a Materion Datblygu) 2020 (O.S. 2020/942);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) 2020 (O.S. 2020/1080) (Cy. 243);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 14) 2020 (O.S. 2020/1098) (Cy. 249);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 15) 2020 (O.S. 2020/1133) (Cy. 258);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) 2020 (O.S. 2020/1165) (Cy. 263);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2020 (O.S. 2020/1191) (Cy. 269);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 18) 2020 (O.S. 2020/1223) (Cy. 277);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2020 (O.S. 2020/1232) (Cy. 278);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1237) (Cy. 279);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1288) (Cy. 286);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 20) 2020 (O.S. 2020/1329) (Cy. 295);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21) 2020 (O.S. 2020/1362) (Cy. 301);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1477) (Cy. 316).
Diwygiwyd y Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd yn flaenorol gan:
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714) (Cy. 160);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/1118) (Cy. 253).
Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ynysu am gyfnod i’w bennu yn unol â’r Rheoliadau hynny.
Mae gofynion y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ddarostyngedig i eithriadau, ac mae categorïau penodol o bersonau wedi eu hesemptio rhag gorfod cydymffurfio. Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol hefyd yn rhoi pwerau i bersonau penodedig mewn amgylchiadau penodedig i ddyroddi hysbysiadau cosb benodedig mewn perthynas â throseddau a gyflawnir o dan y rheoliadau, gan gynnwys mewn perthynas â throseddau o fethu â chydymffurfio â’r gofynion i ynysu.
Nid yw’n ofynnol i bersonau sy’n dod i Gymru ynysu ar ôl bod mewn un neu ragor o’r gwledydd a’r tiriogaethau (neu rannau o wledydd a thiriogaethau) a restrir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Cyfeirir at y gwledydd a’r tiriogaethau a’r rhannau o wledydd a thiriogaethau a restrir yn Atodlen 3 fel “gwledydd a thiriogaethau esempt”.
Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt. Mae rheoliad 2 yn diwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn hepgor y cofnod ar gyfer yr Ynysoedd Dedwydd o’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt. Mae rheoliad 4 yn diwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn ychwanegu Botswana a Saudi Arabia at y rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt.
Mae rheoliadau 3 a 5 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â’r newid yn statws y gwledydd a’r tiriogaethau hyn. Mae’r ddarpariaeth drosiannol yn ymdrin â maes a all fod yn destun amheuaeth o ran effaith y diwygiadau a wneir gan reoliadau 2 a 4 o’r Rheoliadau hyn ar weithredu’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio swm yr hysbysiad cosb benodedig y caniateir ei ddyroddi o dan reoliad 16(6) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae rheoliad 6 o’r Rheoliadau hyn yn rhoi graddfa symudol sy’n dechrau ar £500 ar gyfer trosedd gyntaf yn lle’r swm penodedig o £1000.
Mae’r Rheoliadau Gwybodaeth y Cyhoedd yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr gwasanaethau masnachol i deithwyr sy’n cyrraedd Cymru ar lestr neu awyren ddarparu gwybodaeth benodol i deithwyr sy’n defnyddio’r gwasanaethau hynny. Mae’r wybodaeth yn ymwneud â mesurau sy’n cael eu cymryd yn y Deyrnas Unedig mewn ymateb i’r coronafeirws, gan gynnwys mesurau sy’n ofynnol gan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd. Mae rheoliadau 7 a 9 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau canlyniadol o ganlyniad i’r diwygiadau a wnaed gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1477) (Cy. 316)) i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn lleihau’r cyfnod y mae’n rhaid i berson ynysu o 14 o ddiwrnodau i 10 niwrnod.
Mae rheoliad 8 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio swm yr hysbysiad cosb benodedig y caniateir ei ddyroddi o dan reoliad 7(1) o’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd. Mae rheoliad 7 o’r Rheoliadau hyn yn rhoi graddfa symudol sy’n dechrau ar £1000 am drosedd gyntaf yn lle’r swm penodedig o £4000.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1984 p. 22. Mewnosodwyd Rhan 2A gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaeth o wneud rheoliadau o dan Ran 2A wedi ei rhoi i “the appropriate Minister”. O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984 y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.
O.S. 2020/595 (Cy. 136), a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/714 (Cy. 160) ac O.S. 2020/1118 (Cy. 253).
O.S. 2020/574 (Cy. 132), a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/595 (Cy. 136), O.S. 2020/714 (Cy. 160), O.S. 2020/726 (Cy. 163), O.S. 2020/804 (Cy. 177), O.S. 2020/817 (Cy. 179), O.S. 2020/840 (Cy. 185), O.S. 2020/868 (Cy. 190), O.S. 2020/886 (Cy. 196), O.S. 2020/917 (Cy. 205), O.S. 2020/942, O.S. 2020/944 (Cy. 210), O.S. 2020/962 (Cy. 216), O.S. 2020/981 (Cy. 220), O.S. 2020/1015 (Cy. 226), O.S. 2020/1042 (Cy. 231), O.S. 2020/1080 (Cy. 243), O.S. 2020/1098 (Cy. 249), O.S. 2020/1133 (Cy. 258), O.S. 2020/1165 (Cy. 263), O.S. 2020/1191 (Cy. 269), O.S. 2020/1223 (Cy. 277), O.S. 2020/1232 (Cy. 278), O.S. 2020/1237 (Cy. 279), O.S. 2020/1288 (Cy. 286), O.S. 2020/1329 (Cy. 295), O.S. 2020/1362 (Cy. 301) ac O.S. 2020/1477 (Cy. 316).