Tenantiaethau Preswyl (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan)2
1
Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), ni chaiff unrhyw berson fod yn bresennol mewn tŷ annedd at ddiben—
a
gweithredu gwrit neu warant meddiant;
b
gweithredu gwrit neu warant adfer; neu
c
danfon hysbysiad troi allan.
2
Nid yw paragraff (1) yn gymwys pan fo’r llys wedi ei fodloni bod yr hysbysiad, y writ neu’r warant yn ymwneud â gorchymyn meddiant a wneir—
a
yn erbyn tresmaswyr yn unol â hawliad y mae rheol 55.6 (cyflwyno hawliadau yn erbyn tresmaswyr) o Reolau’r Drefniadaeth Sifil 19982 yn gymwys iddo;
b
yn llwyr neu’n rhannol o dan adran 84A (sail absoliwt ar gyfer meddiannu am ymddygiad gwrthgymdeithasol) o Ddeddf Tai 19853;
c
yn llwyr neu’n rhannol ar Sail 2 neu Sail 2A yn Atodlen 2 (seiliau ar gyfer meddiannu tai annedd sy’n cael eu gosod o dan denantiaethau diogel) i Ddeddf Tai 19854;
d
yn llwyr neu’n rhannol ar Sail 7A, Sail 14 neu Sail 14A yn Atodlen 2 (seiliau ar gyfer meddiannu tai annedd sy’n cael eu gosod o dan denantiaethau sicr) i Ddeddf Tai 19885;
e
yn llwyr neu’n rhannol ar Sail 7 yn Atodlen 2 (sail ar gyfer meddiannu pan fo tenant yn marw ac na cheir hawl olyniaeth) i Ddeddf Tai 19886; neu
f
yn llwyr neu’n rhannol o dan achos 2 o Atodlen 15 (sail ar gyfer meddiannu tai annedd sy’n cael eu gosod o dan denantiaethau gwarchodedig neu statudol, neu sy’n ddarostyngedig iddynt) i Ddeddf Rhenti 19777.
3
Pan fo paragraff 2(e) yn gymwys, rhaid i’r person sy’n bresennol yn y tŷ annedd gymryd camau rhesymol i’w fodloni ei hun nad yw’r tŷ annedd wedi ei feddiannu cyn cyflawni’r materion hynny a nodir yn rheoliad 2(1)(a), (b) neu (c).