Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gosodir.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Yn y Rheoliadau hyn, mae i “tŷ annedd” yr un ystyr ag a roddir i “dwelling-house” yn Neddf Tai 1985, Deddf Tai 1988 neu Ddeddf Rhenti 1977, yn ôl y digwydd.