Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2020
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.
Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2020.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gosodir.
(3)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(4)
Yn y Rheoliadau hyn, mae i “tŷ annedd” yr un ystyr ag a roddir i “dwelling-house” yn Neddf Tai 1985, Deddf Tai 1988 neu Ddeddf Rhenti 1977, yn ôl y digwydd.
Tenantiaethau Preswyl (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan)2.
(1)
Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), ni chaiff unrhyw berson fod yn bresennol mewn tŷ annedd at ddiben—
(a)
gweithredu gwrit neu warant meddiant;
(b)
gweithredu gwrit neu warant adfer; neu
(c)
danfon hysbysiad troi allan.
(2)
Nid yw paragraff (1) yn gymwys pan fo’r llys wedi ei fodloni bod yr hysbysiad, y writ neu’r warant yn ymwneud â gorchymyn meddiant a wneir—
(a)
(b)
(c)
(d)
(e)
(f)
(3)
Pan fo paragraff 2(e) yn gymwys, rhaid i’r person sy’n bresennol yn y tŷ annedd gymryd camau rhesymol i’w fodloni ei hun nad yw’r tŷ annedd wedi ei feddiannu cyn cyflawni’r materion hynny a nodir yn rheoliad 2(1)(a), (b) neu (c).
Y Rheoliadau yn dod i ben3.
(1)
Daw’r Rheoliadau hyn i ben ar 11 Ionawr 2021.
(2)
Nid yw’r ffaith bod y Rheoliadau hyn wedi dod i ben yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir neu nas gwneir yn unol â’r Rheoliadau hyn cyn iddynt ddod i ben.
Mae adran 45C o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru fel “The appropriate Minister”, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn atal, ac eithrio o dan amgylchiadau penodedig, bod yn bresennol mewn tŷ annedd at ddiben gweithredu gwrit neu warant meddiant, gweithredu gwrit neu warant adfer neu ddanfon hysbysiad troi arall.
Yr amgylchiadau penodedig yw pan fo’r llys wedi ei fodloni bod yr hawliad yn un yn erbyn tresmaswyr sy’n bersonau anhysbys neu pan y’i gwnaed yn llwyr neu’n rhannol ar sail trais domestig, troseddau difrifol, ymddygiad gwrthgymdeithasol, niwsans neu, mewn achosion pan fo’r person sy’n bresennol wedi ei fodloni nad yw’r tŷ annedd wedi ei feddiannau ar yr adeg pan fo’n bresennol, farwolaeth y meddiannydd.
Daw’r Rheoliadau hyn i ben ar 11 Ionawr 2021.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.