2020 Rhif 1451 (Cy. 313)

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru

Gorchymyn Iechyd a Gofal Digidol Cymru (Sefydlu ac Aelodaeth) 2020

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 22(1), (2), 4(a) ac (c) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 20061.

Enwi, cychwyn a dehongli1

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd a Gofal Digidol Cymru (Sefydlu ac Aelodaeth) 2020.

2

Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 30 Rhagfyr 2020.

3

Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “data gwasanaethau iechyd” (“health service data”) yw data a brosesir ar gyfer darparu neu hybu gwasanaethau o dan y Ddeddf neu mewn cysylltiad â darparu neu hybu gwasanaethau o’r fath;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

  • ystyr “fferyllydd cofrestredig” (“registered pharmacist”) yw person sydd wedi ei gofrestru’n fferyllydd yn Rhan 1 neu 4 o’r gofrestr a gynhelir o dan erthygl 19 o Orchymyn Fferylliaeth 20102;

  • ystyr “IGDC” (“DHCW”) yw Iechyd a Gofal Digidol Cymru;

  • ystyr “nyrs gofrestredig” (“registered nurse”) yw nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio sydd wedi ei chofrestru neu ei gofrestru yn y gofrestr a gynhelir o dan erthygl 5 o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 20013 yn rhinwedd cymhwyster sy’n gymhwyster a gymeradwyir at ddibenion cofrestru yn y rhan berthnasol o’r gofrestr;

  • ystyr “optometrydd” (“optometrist”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr optometryddion a gynhelir o dan adran 7 o Ddeddf Optegwyr 19894;

  • ystyr “platfformau, systemau a gwasanaethau digidol” (“digital platforms, systems and services”) yw caledwedd, meddalwedd a threfniadau eraill ar gyfer casglu, storio, prosesu, dadansoddi, defnyddio a lledaenu data gwasanaethau iechyd yn ddigidol;

  • ystyr “proffesiynolyn gofal iechyd cofrestredig” (“registered healthcare professional”) yw person sydd wedi ei gofrestru ar y gofrestr a gynhelir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal yn unol ag erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd a Gwaith Cymdeithasol 20015;

  • ystyr “swyddog clinigol” (“clinical officer”) yw swyddog sy’n broffesiynolyn gofal iechyd cofrestredig; ymarferydd meddygol cofrestredig; nyrs gofrestredig; fferyllydd cofrestredig; ymarferydd deintyddol; neu optometrydd;

  • ystyr “ymarferydd deintyddol” (“dental practitioner”) yw person sydd wedi ei gofrestru o dan Ddeddf Deintyddion 19846;

  • ystyr “ymarferydd meddygol cofrestredig” (“registered medical practitioner”) yw person sydd wedi ei gofrestru’n llawn o fewn yr ystyr a roddir i “fully registered person” yn Neddf Feddygol 19837 sy’n dal trwydded i ymarfer o dan y Ddeddf honno.

Sefydlu IGDC2

Mae Awdurdod Iechyd Arbennig o’r enw Iechyd a Gofal Digidol Cymru neu Digital Health and Care Wales wedi ei sefydlu.

Swyddogaethau IGDC3

Mae IGDC i arfer unrhyw swyddogaethau a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru8 mewn cysylltiad â—

a

darparu, dylunio, rheoli, datblygu a chyflenwi platfformau, systemau a gwasanaethau digidol;

b

casglu, dadansoddi, defnyddio a lledaenu data gwasanaethau iechyd;

c

darparu cyngor a chanllawiau i Weinidogion Cymru ynghylch gwella platfformau, systemau a gwasanaethau digidol;

d

cefnogi cyrff a phersonau a nodir mewn cyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru i IGDC mewn perthynas â materion sy’n berthnasol i blatfformau, systemau a gwasanaethau digidol;

e

unrhyw fater arall er mwyn sicrhau y darperir neu yr hybir gwasanaethau o dan y Ddeddf.

Aelodaeth IGDC4

1

Aelodaeth IGDC yw—

a

cadeirydd;

b

is-gadeirydd;

c

dim mwy na 5 aelod nad ydynt yn swyddogion IGDC yn ychwanegol at y cadeirydd a’r is-gadeirydd;

d

dim mwy na 5 aelod sy’n swyddogion IGDC y mae rhaid iddynt gynnwys;

i

prif swyddog;

ii

swyddog cyllid;

iii

swyddog clinigol;

e

dim mwy na 3 aelod cyswllt nad ydynt yn gymwys i bleidleisio mewn unrhyw drafodion gan IGDC ac nad ydynt wedi eu cynnwys at ddibenion y cyfrifiad ym mharagraff (2).

2

Ni chaiff nifer yr aelodau sy’n swyddogion IGDC fod yn fwy na nifer yr aelodau nad ydynt yn swyddogion o’r fath.

3

Mae aelodau IGDC y cyfeirir atynt yn erthygl 4(1)(a),(b) ac (c) i’w hadnabod fel yr aelodau nad ydynt yn swyddogion.

4

Mae aelodau IGDC y cyfeirir atynt yn erthygl 4(1)(d) i’w hadnabod fel y swyddog-aelodau.

5

Mae aelodau IGDC y cyfeirir atynt yn erthygl 4(1)(e) i’w hadnabod fel yr aelodau cyswllt.

Cyfarfodydd cyhoeddus5

Mae Deddf Cyrff Cyhoeddus (Derbyn i Gyfarfodydd) 19609 i fod yn gymwys i IGDC.

Vaughan GethingY Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud o dan adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (“y Ddeddf”). Mae’n sefydlu Awdurdod Iechyd Arbennig newydd, sef Iechyd a Gofal Digidol Cymru (“IGDC”), ac yn gwneud darpariaeth ynghylch ei swyddogaethau a’i aelodaeth.

Mae erthygl 3 yn nodi natur swyddogaethau IGDC sydd i’w pennu’n fwy penodol mewn cyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 24 o’r Ddeddf. Bydd swyddogaethau IGDC yn ymwneud â darparu platfformau, systemau a gwasanaethau digidol a chefnogi gwella systemau o’r fath ac unrhyw swyddogaethau eraill a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru er mwyn sicrhau y darperir neu yr hybir gwasanaethau o dan y Ddeddf.

Mae erthygl 4 yn nodi aelodaeth IGDC ac mae erthygl 5 yn darparu bod Deddf Cyrff Cyhoeddus (Derbyn i Gyfarfodydd) 1960 yn gymwys i gyfarfodydd IGDC.

Nid yw’r Gorchymyn hwn yn gwneud unrhyw ddarpariaeth sy’n ymwneud â throsglwyddo swyddogion, eiddo neu atebolrwyddau.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.