NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag is-etholiadau llywodraeth leol penodol a ohiriwyd o ganlyniad i’r pandemig COVID-19. Gohiriwyd yr is-etholiadau llywodraeth leol hyn gan Reoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) 2020 (“Rheoliadau 2020”).

Mae rheoliad 4 yn darparu nad yw unrhyw bleidlais drwy’r post a fwriwyd mewn perthynas ag is-etholiad a ohiriwyd gan Reoliadau 2020 i gyfrif at ddibenion yr is-etholiad hwnnw sydd wedi ei ail-drefnu. Mae hefyd yn darparu nad yw pleidleisiwr drwy’r post yn cael ei atal rhag bwrw pleidlais drwy’r post arall mewn is-etholiad a ad-drefnir.

Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch sut y mae rhaid i’r swyddog canlyniadau ymdrin â’r ddogfennaeth y gellid bod wedi ei chreu cyn is-etholiad a ohiriwyd, gan gynnwys ei hanfon ymlaen at y swyddog cofrestru.

Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog cofrestru gadw’r dogfennau hynny am flwyddyn cyn eu dinistrio (yn ddarostyngedig i orchymyn llys). Mae hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch gorchmynion llys i gael mynediad at y dogfennau hynny mewn cysylltiad ag erlyniad.

Mae rheoliad 7 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â phersonau a oedd yn ymgeiswyr mewn is-etholiad a ohiriwyd. Mae’n darparu nad yw person a oedd yn ymgeisydd yn ymgeisydd mwyach, a’i fod yn cael ei drin yn gyffredinol fel pe na bai wedi bod yn ymgeisydd. Mae effeithiau hyn yn cynnwys y ffaith nad yw’n ofynnol i’r person lenwi datganiadau penodol sy’n ymwneud â threuliau ymgeisydd a rhoddion o dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983. Yn lle hynny, ymdrinnir â rhoddion penodol i roddeion rheoleiddiedig o dan y rheolau yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000, ond mae’r terfynau amser ar gyfer cydymffurfio â’r rheolau hynny wedi eu hymestyn.

Mae rheoliad 8 yn diwygio Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, er mwyn darparu sail ychwanegol i geiswyr wneud cais am bleidleisiau drwy ddirprwyon brys mewn cysylltiad ag is-etholiadau llywodraeth leol penodol. Mae’r sail ychwanegol hon yn ymwneud â phersonau nad ydynt yn gallu mynd i orsaf bleidleisio yn bersonol o ganlyniad i ddilyn deddfwriaeth berthnasol neu ganllawiau neu gyngor meddygol perthnasol mewn perthynas â’r pandemig COVID-19..

Mae rheoliad 9 yn addasu effaith Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 mewn perthynas â’r gofyniad i roi hysbysiad cyhoeddus pan fo person yn cael ei gyfethol i fod yn aelod o gyngor cymuned yng Nghymru. O ganlyniad i’r pandemig COVID-19, nid yw ond yn ofynnol i’r hysbysiadau cyhoeddus hynny gael eu rhoi ar ffurf electronig.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.