Offerynnau Statudol Cymru
2020 Rhif 1390 (Cy. 308)
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) (Diwygio) (Cymru) 2020
Gwnaed
1 Rhagfyr 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
3 Rhagfyr 2020
Yn dod i rym
1 Ionawr 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 93(1) ac (8) a 94(1)(b), (c) a (d) a (7) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (“y Ddeddf”)(1).
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori yn unol ag adran 93(2) o’r Ddeddf ac maent wedi eu bodloni ynglŷn â’r materion a bennir yn adran 93(6).
1995 p. 25. Trosglwyddwyd pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol o ran Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae’r swyddogaethau a roddwyd i’r Cynulliad bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.
