2020 Rhif 1381 (Cy. 307)

Amaethyddiaeth, Cymru

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Dibenion Maethol Penodol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19721, a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion mesurau sy’n ymwneud â bwyd anifeiliaid a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd, neu sy’n cael ei fwydo i anifeiliaid o’r fath2, mesurau yn y meysydd milfeddygol a ffytoiechydol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd3, a mesurau mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd4.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at offerynnau’r UE a grybwyllir yn rheoliad 2(3) o Reoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 20165 (fel y’u diwygiwyd gan y Rheoliadau hyn) a rheoliad 2(5) o Reoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 20166 (fel y’u diwygiwyd gan y Rheoliadau hyn) gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau UE hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

Ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio’r Rheoliadau hyn yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd7.

Enwi a chychwyn1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Dibenion Maethol Penodol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020 a deuant i rym ar 25 Rhagfyr 2020.

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 20162

1

Mae Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 20168 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2 (dehongli a chwmpas)—

a

ym mharagraff (1)—

i

hepgorer y diffiniad o “Cyfarwyddeb 2008/38”;

ii

yn y man priodol mewnosoder—

  • ystyr “Rheoliad 2020/354” (“Regulation 2020/354”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) 2020/354 sy’n sefydlu rhestr o’r defnydd y bwriedir ei wneud o fwyd anifeiliaid a fwriedir at ddibenion maethol penodol, ac yn diddymu Cyfarwyddeb 2008/38/EC9;

b

yn lle paragraff (3) rhodder—

3

Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn UE a ddiffinnir ym mharagraff (1) yn gyfeiriad at yr offeryn UE hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

3

Yn lle Rhan 7 (gweithredu Cyfarwyddeb 2008/38) rhodder—

Rhan 7Gorfodi Rheoliad 2020/354

Dehongli’r Rhan hon16

Yn y Rhan hon mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl sy’n dwyn y rhif hwnnw yn Rheoliad 2020/354.

Y drosedd o fethu â chydymffurfio ag Erthygl 1 o Reoliad 2020/35417

Mae person sy’n mynd yn groes i Erthygl 1 (amodau ar farchnata), fel y’i darllenir gydag Erthygl 2 (rhanddirymiad ar gyfer bwyd anifeiliaid sy’n cydymffurfio â darpariaethau Cyfarwyddeb 2008/38/EC) ac Erthygl 3 (darpariaethau trosiannol ar gyfer bwyd anifeiliaid a labelir cyn 25 Mawrth 2022 yn unol â’r rheolau sy’n gymwys cyn 25 Mawrth 2020), neu sy’n methu â chydymffurfio â hi, yn cyflawni trosedd.

4

Yn rheoliad 18 (cosbau am droseddau o dan y Rheoliadau hyn), ym mharagraff (1), yn lle “17(1)” rhodder “17”.

5

Yn rheoliad 19 (dyletswyddau i orfodi), ar ôl “Rheoliad 767/2009” mewnosoder “, Rheoliad 2020/354”.

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 20163

1

Mae Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 201610 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2 (dehongli a chwmpas), yn lle paragraff (5) rhodder—

5

Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Reoliad UE a bennir yn Atodlen 1 yn gyfeiriad at y Rheoliad UE hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

3

Yn Atodlen 1 (cyfraith bwyd anifeiliaid benodedig), yn y tabl, yn y man priodol ychwaneger y cofnod a ganlyn—

Rheoliad y Comisiwn (EU) 2020/354 sy’n sefydlu rhestr o’r defnydd y bwriedir ei wneud o fwyd anifeiliaid a fwriedir at ddibenion maethol penodedig, ac yn diddymu Cyfarwyddeb 2008/38/EC11

Eluned MorganY Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio deddfwriaeth ym maes hylendid a diogelwch bwyd anifeiliaid er mwyn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EU) 2020/354 sy’n sefydlu rhestr o’r defnydd y bwriedir ei wneud o fwyd anifeiliaid a fwriedir at ddibenion maethol penodol, ac yn diddymu Cyfarwyddeb 2008/38/EC (OJ Rhif L67, 5.3.2020, t. 1.).

Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 2016 (O.S. 2016/386 (Cy. 120)), gan ddileu cyfeiriadau at Gyfarwyddeb 2008/38/EC sydd wedi ei diddymu a darparu ar gyfer gorfodi’r Rheoliad (EU) 2020/354 newydd. Mae rheoliad 2(2)(c) yn diweddaru’r cyfeiriadau yn y Rheoliadau hynny at offerynnau UE penodedig.

Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 2016 (O.S. 2016/387 (Cy. 121)), er mwyn ychwanegu Rheoliad (EU) 2020/354 at y rhestr o ddeddfwriaeth a ddiffinnir fel “cyfraith bwyd anifeiliaid benodedig” at ddibenion y Rheoliadau hynny. Mae rheoliad 3(2) yn diweddaru’r cyfeiriadau yn y Rheoliadau hynny at offerynnau UE penodedig.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.