Search Legislation

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Dibenion Maethol Penodol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 1381 (Cy. 307)

Amaethyddiaeth, Cymru

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Dibenion Maethol Penodol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020

Gwnaed

30 Tachwedd 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

2 Rhagfyr 2020

Yn dod i rym

25 Rhagfyr 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1), a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion mesurau sy’n ymwneud â bwyd anifeiliaid a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd, neu sy’n cael ei fwydo i anifeiliaid o’r fath(2), mesurau yn y meysydd milfeddygol a ffytoiechydol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd(3), a mesurau mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd(4).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at offerynnau’r UE a grybwyllir yn rheoliad 2(3) o Reoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 2016(5) (fel y’u diwygiwyd gan y Rheoliadau hyn) a rheoliad 2(5) o Reoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 2016(6) (fel y’u diwygiwyd gan y Rheoliadau hyn) gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau UE hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

Ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio’r Rheoliadau hyn yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(7).

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Dibenion Maethol Penodol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020 a deuant i rym ar 25 Rhagfyr 2020.

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 2016

2.—(1Mae Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 2016(8) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli a chwmpas)—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)hepgorer y diffiniad o “Cyfarwyddeb 2008/38”;

(ii)yn y man priodol mewnosoder—

ystyr “Rheoliad 2020/354” (“Regulation 2020/354”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) 2020/354 sy’n sefydlu rhestr o’r defnydd y bwriedir ei wneud o fwyd anifeiliaid a fwriedir at ddibenion maethol penodol, ac yn diddymu Cyfarwyddeb 2008/38/EC(9);

(b)yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn UE a ddiffinnir ym mharagraff (1) yn gyfeiriad at yr offeryn UE hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

(3Yn lle Rhan 7 (gweithredu Cyfarwyddeb 2008/38) rhodder—

Rhan 7Gorfodi Rheoliad 2020/354

Dehongli’r Rhan hon

16.  Yn y Rhan hon mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl sy’n dwyn y rhif hwnnw yn Rheoliad 2020/354.

Y drosedd o fethu â chydymffurfio ag Erthygl 1 o Reoliad 2020/354

17.  Mae person sy’n mynd yn groes i Erthygl 1 (amodau ar farchnata), fel y’i darllenir gydag Erthygl 2 (rhanddirymiad ar gyfer bwyd anifeiliaid sy’n cydymffurfio â darpariaethau Cyfarwyddeb 2008/38/EC) ac Erthygl 3 (darpariaethau trosiannol ar gyfer bwyd anifeiliaid a labelir cyn 25 Mawrth 2022 yn unol â’r rheolau sy’n gymwys cyn 25 Mawrth 2020), neu sy’n methu â chydymffurfio â hi, yn cyflawni trosedd.

(4Yn rheoliad 18 (cosbau am droseddau o dan y Rheoliadau hyn), ym mharagraff (1), yn lle “17(1)” rhodder “17”.

(5Yn rheoliad 19 (dyletswyddau i orfodi), ar ôl “Rheoliad 767/2009” mewnosoder “, Rheoliad 2020/354”.

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 2016

3.—(1Mae Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 2016(10) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli a chwmpas), yn lle paragraff (5) rhodder—

(5) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Reoliad UE a bennir yn Atodlen 1 yn gyfeiriad at y Rheoliad UE hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

(3Yn Atodlen 1 (cyfraith bwyd anifeiliaid benodedig), yn y tabl, yn y man priodol ychwaneger y cofnod a ganlyn—

Rheoliad y Comisiwn (EU) 2020/354 sy’n sefydlu rhestr o’r defnydd y bwriedir ei wneud o fwyd anifeiliaid a fwriedir at ddibenion maethol penodedig, ac yn diddymu Cyfarwyddeb 2008/38/EC(11).

Eluned Morgan

Y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg, un o Weinidogion Cymru

30 Tachwedd 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio deddfwriaeth ym maes hylendid a diogelwch bwyd anifeiliaid er mwyn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EU) 2020/354 sy’n sefydlu rhestr o’r defnydd y bwriedir ei wneud o fwyd anifeiliaid a fwriedir at ddibenion maethol penodol, ac yn diddymu Cyfarwyddeb 2008/38/EC (OJ Rhif L67, 5.3.2020, t. 1.).

Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 2016 (O.S. 2016/386 (Cy. 120)), gan ddileu cyfeiriadau at Gyfarwyddeb 2008/38/EC sydd wedi ei diddymu a darparu ar gyfer gorfodi’r Rheoliad (EU) 2020/354 newydd. Mae rheoliad 2(2)(c) yn diweddaru’r cyfeiriadau yn y Rheoliadau hynny at offerynnau UE penodedig.

Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 2016 (O.S. 2016/387 (Cy. 121)), er mwyn ychwanegu Rheoliad (EU) 2020/354 at y rhestr o ddeddfwriaeth a ddiffinnir fel “cyfraith bwyd anifeiliaid benodedig” at ddibenion y Rheoliadau hynny. Mae rheoliad 3(2) yn diweddaru’r cyfeiriadau yn y Rheoliadau hynny at offerynnau UE penodedig.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1972 p. 68. Diddymwyd Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (“Deddf 1972”) gan adran 1 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) (“Deddf 2018”) gan gael effaith o’r diwrnod ymadael. Mae “exit day” wedi ei ddiffinio yn adran 20 o Ddeddf 2018 fel 31 Ionawr 2020 am 11pm. Er gwaethaf y diddymiad hwnnw mae Deddf 1972 yn parhau i gael effaith gydag addasiadau hyd ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, yn rhinwedd adran 1A o Ddeddf 2018. Mewnosodwyd adran 1A gan adran 1 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1) (“Deddf 2020”). Mae “IP completion day” wedi ei ddiffinio yn adran 1A fel 31 Rhagfyr 2020 am 11pm (yr ystyr a roddir yn adran 39 o Ddeddf 2020). Diwygiwyd adran 2(2) o Ddeddf 1972 yn flaenorol hefyd gan adran 27(1) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a chan adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) a Rhan 1 o’r Atodlen iddi. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf 1972 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 ac fe’i diwygiwyd gan Ran 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 ac O.S. 2007/1388.

(2)

O.S. 2005/1971, a ddiwygiwyd gan O.S. 2005/2766. Mae’r swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan y dynodiad hwn wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi. Nid yw’r dynodiad yn estyn i fesurau sy’n ymwneud â bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys cynhyrchion meddyginiaethol (gan gynnwys rheolyddion twf) na chynhyrchion meddyginiaethol y bwriedir eu defnyddio mewn bwyd anifeiliaid ac eithrio darpariaeth sy’n ymwneud â sylweddau gwella gallu treuliadwyedd, sefydlogyddion fflora’r perfedd, neu sylweddau sy’n cael effaith ffafriol ar yr amgylchedd. Mae O.S. 2005/1971 wedi ei ddirymu’n rhagolygol gan O.S. 2018/1011 o ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

(3)

O.S. 2008/1792, sydd wedi ei ddirymu’n rhagolygol gan O.S. 2018/1011 o ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

(4)

O.S. 2010/2690. Nid yw’r dynodiad yn estyn i wneud darpariaeth mewn cysylltiad â bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys cynhyrchion meddyginiaethol y bwriedir eu defnyddio mewn bwyd anifeiliaid ac eithrio darpariaeth sy’n ymwneud â sylweddau sy’n cael effaith ffafriol ar yr amgylchedd, sylweddau gwella treuliadwyedd, neu sefydlogyddion fflora’r perfedd. Mae O.S. 2010/2690 wedi ei ddirymu’n rhagolygol gan O.S. 2018/1011 o ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

(5)

O.S. 2016/386, a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/806.

(6)

O.S. 2016/387, a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/1482.

(7)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) 2019/1243 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L198, 25.7.2019, t. 241).

(9)

OJ Rhif L67, 5.3.2020, t. 1.

(11)

OJ Rhif L67, 5.3.2020, t. 1.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources