Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2020
Enwi a chychwyn1.
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2020 a daw i rym ar 23 Rhagfyr 2020.
Dyddiad prisio2.
1 Ebrill 2021 yw’r diwrnod a bennir fel y diwrnod y mae rhaid cyfeirio ato i bennu gwerthoedd ardrethol hereditamentau annomestig at ddibenion y rhestrau ardrethu annomestig lleol a chanolog pan fyddant yn cael eu llunio nesaf ar gyfer Cymru ar ôl i’r Gorchymyn hwn ddod i rym.
Dirymu3.
Mae adrannau 41(2) a 52(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“Deddf 1988”), fel y’u darllenir gyda Gorchymyn Rhestrau Ardrethu (Gohirio Gwneud Rhestrau) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/1370 (Cy. 139)) a wnaed o dan adran 54A o Ddeddf 1988, yn darparu bod rhestrau ardrethu annomestig ar gyfer Cymru i’w llunio ar 1 Ebrill 2017 a phob pumed flwyddyn wedi hynny.
Mae paragraff 2(3)(b) o Atodlen 6 i Ddeddf 1988 yn darparu, at ddibenion llunio rhestrau o’r fath, fod gwerth ardrethol hereditament annomestig i’w bennu drwy gyfeirio at y diwrnod y mae rhaid llunio’r rhestrau neu ar unrhyw ddiwrnod cyn y diwrnod hwnnw a bennir drwy orchymyn.
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn pennu 1 Ebrill 2021 fel y diwrnod hwnnw at ddibenion llunio’r rhestrau ardrethu annomestig lleol a chanolog nesaf pan fydd y Gorchymyn hwn wedi dod i rym.
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/1001 (Cy. 204)) (“Gorchymyn 2018”), a oedd wedi pennu 1 Ebrill 2019 fel y diwrnod at ddibenion llunio’r rhestrau ardrethu annomestig lleol a chanolog nesaf ar ôl i Orchymyn 2018 ddod i rym.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.