Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2020

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 1378 (Cy. 305)

Ardrethu A Phrisio, Cymru

Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2020

Gwnaed

27 Tachwedd 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

1 Rhagfyr 2020

Yn dod i rym

23 Rhagfyr 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraff 2(3)(b) o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2).

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2020 a daw i rym ar 23 Rhagfyr 2020.

Dyddiad prisio

2.  1 Ebrill 2021 yw’r diwrnod a bennir fel y diwrnod y mae rhaid cyfeirio ato i bennu gwerthoedd ardrethol hereditamentau annomestig at ddibenion y rhestrau ardrethu annomestig lleol a chanolog pan fyddant yn cael eu llunio nesaf ar gyfer Cymru ar ôl i’r Gorchymyn hwn ddod i rym.

Dirymu

3.  Mae Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2018(3) wedi ei ddirymu.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru

27 Tachwedd 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae adrannau 41(2) a 52(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“Deddf 1988”), fel y’u darllenir gyda Gorchymyn Rhestrau Ardrethu (Gohirio Gwneud Rhestrau) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/1370 (Cy. 139)) a wnaed o dan adran 54A o Ddeddf 1988, yn darparu bod rhestrau ardrethu annomestig ar gyfer Cymru i’w llunio ar 1 Ebrill 2017 a phob pumed flwyddyn wedi hynny.

Mae paragraff 2(3)(b) o Atodlen 6 i Ddeddf 1988 yn darparu, at ddibenion llunio rhestrau o’r fath, fod gwerth ardrethol hereditament annomestig i’w bennu drwy gyfeirio at y diwrnod y mae rhaid llunio’r rhestrau neu ar unrhyw ddiwrnod cyn y diwrnod hwnnw a bennir drwy orchymyn.

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn pennu 1 Ebrill 2021 fel y diwrnod hwnnw at ddibenion llunio’r rhestrau ardrethu annomestig lleol a chanolog nesaf pan fydd y Gorchymyn hwn wedi dod i rym.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/1001 (Cy. 204)) (“Gorchymyn 2018”), a oedd wedi pennu 1 Ebrill 2019 fel y diwrnod at ddibenion llunio’r rhestrau ardrethu annomestig lleol a chanolog nesaf ar ôl i Orchymyn 2018 ddod i rym.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

(2)

Trosglwyddwyd pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau yr oedd yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedi hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.