- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Gwnaed
27 Tachwedd 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
1 Rhagfyr 2020
Yn dod i rym
23 Rhagfyr 2020
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2020 a daw i rym ar 23 Rhagfyr 2020.
2. 1 Ebrill 2021 yw’r diwrnod a bennir fel y diwrnod y mae rhaid cyfeirio ato i bennu gwerthoedd ardrethol hereditamentau annomestig at ddibenion y rhestrau ardrethu annomestig lleol a chanolog pan fyddant yn cael eu llunio nesaf ar gyfer Cymru ar ôl i’r Gorchymyn hwn ddod i rym.
3. Mae Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2018(3) wedi ei ddirymu.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
27 Tachwedd 2020
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae adrannau 41(2) a 52(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“Deddf 1988”), fel y’u darllenir gyda Gorchymyn Rhestrau Ardrethu (Gohirio Gwneud Rhestrau) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/1370 (Cy. 139)) a wnaed o dan adran 54A o Ddeddf 1988, yn darparu bod rhestrau ardrethu annomestig ar gyfer Cymru i’w llunio ar 1 Ebrill 2017 a phob pumed flwyddyn wedi hynny.
Mae paragraff 2(3)(b) o Atodlen 6 i Ddeddf 1988 yn darparu, at ddibenion llunio rhestrau o’r fath, fod gwerth ardrethol hereditament annomestig i’w bennu drwy gyfeirio at y diwrnod y mae rhaid llunio’r rhestrau neu ar unrhyw ddiwrnod cyn y diwrnod hwnnw a bennir drwy orchymyn.
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn pennu 1 Ebrill 2021 fel y diwrnod hwnnw at ddibenion llunio’r rhestrau ardrethu annomestig lleol a chanolog nesaf pan fydd y Gorchymyn hwn wedi dod i rym.
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/1001 (Cy. 204)) (“Gorchymyn 2018”), a oedd wedi pennu 1 Ebrill 2019 fel y diwrnod at ddibenion llunio’r rhestrau ardrethu annomestig lleol a chanolog nesaf ar ôl i Orchymyn 2018 ddod i rym.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
Trosglwyddwyd pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau yr oedd yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedi hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: