Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2020

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 1366 (Cy. 302)

Ardrethu A Phrisio, Cymru

Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2020

Gwnaed

27 Tachwedd 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

30 Tachwedd 2020

Yn dod i rym

31 Rhagfyr 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 60 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1) a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8 iddi.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2020 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2020.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 1992” yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992(2).

Diwygio Rheoliadau 1992

2.—(1Mae Rheoliadau 1992 wedi eu diwygio fel a ganlyn mewn perthynas â’r blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2021 neu ar ôl hynny.

(2Yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992 rhodder yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru

27 Tachwedd 2020

Rheoliad 2

YR ATODLEN

SCHEDULE 4

ADULT POPULATION FIGURES

Billing authority areaPrescribed figure
Blaenau Gwent56,285
Bridgend/Pen-y-bont ar Ogwr117,680
Caerphilly/Caerffili143,125
Cardiff/Caerdydd292,013
Carmarthenshire/Sir Gaerfyrddin151,377
Ceredigion60,456
Conwy95,925
Denbighshire/Sir Ddinbych76,246
Flintshire/Sir y Fflint123,785
Gwynedd101,246
Isle of Anglesey/Ynys Môn56,637
Merthyr Tydfil/Merthyr Tudful47,469
Monmouthshire/Sir Fynwy77,230
Neath Port Talbot/Castell-nedd Port Talbot115,254
Newport/Casnewydd119,331
Pembrokeshire/Sir Benfro101,871
Powys108,508
Rhondda Cynon Taf191,160
Swansea/Abertawe200,005
Torfaen74,510
Vale of Glamorgan/Bro Morgannwg105,935
Wrexham/Wrecsam106,892

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992 (“Rheoliadau 1992”).

O dan Ran 2 o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, mae’n ofynnol i awdurdodau bilio (sef, yng Nghymru, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Weinidogion Cymru. Mae Rheoliadau 1992 yn cynnwys rheolau ar gyfer cyfrifo’r cyfraniadau hynny ar gyfer awdurdodau bilio Cymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 drwy roi Atodlen 4 newydd (Ffigurau Poblogaeth Oedolion) yn lle’r un bresennol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.