2020 Rhif 1340 (Cy. 297)

Addysg, Cymru

Gorchymyn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Trallwng (Newid Amserau Sesiynau Ysgolion) 2020

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Yn unol ag adran 4(2) o Ddeddf Addysg 20021 (“y Ddeddf”), mae corff llywodraethu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Trallwng (“y corff llywodraethu”) wedi ymgynghori â’r awdurdod lleol a’r personau hynny y mae’n ymddangos iddo eu bod yn briodol, gan gynnwys rhieni disgyblion cofrestredig yn yr ysgol a’r staff sy’n gweithio yn yr ysgol;

Mae Gweinidogion Cymru o’r farn, ar ôl rhoi sylw i’r materion a nodir yn adran 1(2) o’r Ddeddf, y gall gweithredu gan y corff llywodraethu ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn gyfrannu at godi’r safonau addysgol a gyrhaeddir gan blant yng Nghymru;

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 2(1) o’r Ddeddf2, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, ar gais y corff llywodraethu, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: