(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 (“Gorchymyn 2007”) sy’n cynnwys darpariaethau mewn perthynas ag etholiadau’r Senedd, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (“Deddf 1983”) sy’n cynnwys darpariaethau mewn perthynas ag etholiadau llywodraeth leol a Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (“Deddf 2000”) sy’n cynnwys darpariaethau mewn perthynas ag etholiadau’r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol.
Gwnaed Gorchymyn 2007 a gorchmynion diwygio dilynol gan yr Ysgrifennydd Gwladol, ond trosglwyddwyd y pwerau galluogi i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Cymru 2017.
Mae Rhan 2 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio Rhan 2 o Atodlen 7 i Orchymyn 2007.
Mae Gorchymyn 2007 yn nodi gofynion penodol mewn perthynas â threuliau etholiad fel y diffinnir “election expenses” yn erthygl 63 o’r Gorchymyn hwnnw. Mae’r rhain yn cynnwys cyfyngiad ar y swm a ganiateir o’r treuliau hynny, fel y nodir yn erthygl 47 o’r Gorchymyn hwnnw.
Mae Rhan 2 o Atodlen 7 i Orchymyn 2007 yn nodi rhestr o faterion sydd wedi eu heithrio (“excluded”) rhag bod yn dreuliau etholiad o fewn yr ystyr a roddir i “election expenses” yn erthygl 63 o’r Gorchymyn hwnnw. Nid yw’r materion hynny yn ddarostyngedig i’r gofynion a ddisgrifir uchod, gan gynnwys y rhai sy’n cyfyngu ar y swm o dreuliau a ganiateir.
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn ychwanegu at y rhestr honno faterion o ran gwariant yr eir iddo gan neu ar ran ymgeisydd anabl sydd i’w priodoli’n rhesymol i anabledd yr ymgeisydd. Rhaid i’r gwariant hwnnw ei hun fod yn wariant yr eir iddo yn rhesymol.
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn hefyd yn ychwanegu at y rhestr honno faterion o ran gwariant yr eir iddo gan neu ar ran ymgeisydd sydd i’w priodoli i gyfieithu unrhyw beth o’r Saesneg i’r Gymraeg neu o’r Gymraeg i’r Saesneg, neu sy’n deillio o ganlyniad i hynny.
Mae Rhan 3 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio Rhan 2 o Atodlen 4A i Ddeddf 1983.
Mae Deddf 1983 yn nodi gofynion penodol mewn perthynas â threuliau etholiad fel y diffinnir “election expenses” yn adran 90ZA o’r Ddeddf honno. Mae’r rhain yn cynnwys cyfyngiad ar y swm a ganiateir o’r treuliau hynny, fel y nodir yn adran 76 o’r Ddeddf honno.
Mae Rhan 2 o Atodlen 4A i Ddeddf 1983 yn nodi rhestr o faterion sydd wedi eu heithrio rhag bod yn dreuliau etholiad o fewn yr ystyr a roddir i “election expenses” yn adran 90ZA o’r Ddeddf honno. Nid yw’r materion hynny yn ddarostyngedig i’r gofynion a nodir uchod, gan gynnwys y rhai sy’n cyfyngu ar y swm o dreuliau a ganiateir.
Mae erthygl 5 o’r Gorchymyn hwn yn ychwanegu at y rhestr honno faterion o ran gwariant yr eir iddo gan neu ar ran ymgeisydd anabl sydd i’w priodoli’n rhesymol i anabledd yr ymgeisydd. Rhaid i’r gwariant hwnnw ei hun fod yn wariant yr eir iddo yn rhesymol.
Mae erthygl 5 o’r Gorchymyn hwn hefyd yn ychwanegu at y rhestr honno faterion o ran gwariant yr eir iddo gan neu ar ran ymgeisydd sydd i’w priodoli i gyfieithu unrhyw beth o’r Saesneg i’r Gymraeg neu o’r Gymraeg i’r Saesneg, neu sy’n deillio o ganlyniad i hynny.
Mae Rhan 4 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio Rhan 1 o Atodlen 8 i Ddeddf 2000 fel y mae’n gymwys i ymgeiswyr plaid yn etholiadau’r Senedd ac mewn etholiadau llywodraeth leol.
Mae Deddf 2000 yn nodi gofynion penodol mewn perthynas â gwariant ymgyrchu fel y diffinnir “campaign expenditure” yn adran 72 o’r Ddeddf honno. Mae’r rhain yn cynnwys cyfyngiad ar y swm a ganiateir o’r treuliau hynny, fel y nodir yn adran 79 o’r Ddeddf honno.
Mae Rhan 1 o Atodlen 8 i Ddeddf 2000 yn nodi rhestr o faterion sydd wedi eu heithrio rhag bod yn wariant ymgyrchu o fewn yr ystyr a roddir i “campaign expenditure” yn adran 72 o’r Ddeddf honno. Nid yw’r materion hynny yn ddarostyngedig i’r gofynion a nodir uchod, gan gynnwys y rhai sy’n cyfyngu ar y swm o wariant ymgyrchu a ganiateir.
Mae erthygl 7 o’r Gorchymyn hwn yn ychwanegu at y rhestr honno faterion o ran gwariant yr eir iddo gan neu ar ran ymgeisydd anabl sydd i’w priodoli’n rhesymol i anabledd yr ymgeisydd. Rhaid i’r gwariant hwnnw ei hun fod yn wariant yr eir iddo yn rhesymol.
Mae erthygl 7 o’r Gorchymyn hwn hefyd yn ychwanegu at y rhestr honno faterion o ran gwariant yr eir iddo gan neu ar ran ymgeisydd sydd i’w priodoli i gyfieithu unrhyw beth o’r Saesneg i’r Gymraeg neu o’r Gymraeg i’r Saesneg, neu sy’n deillio o ganlyniad i hynny.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn gan ei fod yn gweithredu diwygiadau technegol arferol nad ydynt yn cael unrhyw effaith, neu nad ydynt yn cael unrhyw effaith sylweddol, ar y sector preifat, y sector gwirfoddol na’r sector cyhoeddus.